Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Fe rybuddion ni Lywodraeth y DU bod eu toriadau gwariant yn rhy ddwfn ac yn rhy gyflym. Fe rybuddion ni y byddai’r toriadau hyn yn arwain at ddirwasgiad dwbl. Heddiw, mae’r ffigurau hyn yn profi mai ni oedd yn iawn.
"Mae’r ffigurau eraill a ryddhawyd heddiw ar gyfer Incwm Aelwyd Mewnwladol Crynswth – hynny yw, faint o arian oedd gan bobl i’w wario neu gynilo yn 2010 – yn dangos gwelliant. Roedd cynnydd Cymru, fesul y pen, yn gydradd â’r cynnydd uchaf yn y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn. Mae toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig – yn ogystal â chwyddiant uchel a thwf gwan yn Ardal yr Ewro – yn gwneud y cyfnod hwn yn un anodd iawn i fusnesau a phobl Cymru.
“Yn awr, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid cyfeiriad a dilyn ein hesiampl ni drwy weithredu polisi economaidd sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy, creu swyddi a sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wireddu eu potensial.”











