Wrth i’r Prif Weinidog hybu Cymru fel gwlad ddelfrydol i fuddsoddi ynddi ac i wneud busnes â hi mae hefyd wedi annerch Cydffederasiwn Diwydiant India yn y brifddinas, New Delhi.
Mae wedi cynnal trafodaethau â’r Gweinidog Datblygu Adnoddau Dynol, Kapil Sibal â’r Gweinidog Materion Allanol.
Wrth annerch arweinwyr busnes India dywedodd y Prif Weinidog:
"Roedd hi’n bleser pur i groesawu cynrychiolaeth o ddynion busnes o India i Gymru y llynedd ac mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i gefnogi taith fasnach i India yr wythnos hon.
"Mae nifer o gwmnïau o India eisoes yn gweithredu yng Nghymru, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi. Hoffwn i weld nifer y cwmnïau hyn yn cynyddu a byddwn yn croesawu eich sylwadau ynghylch sut y gallwn ddenu rhagor o fuddsoddiad yng Nghymru.
"Hoffwn i weld rhagor o gysylltiadau masnach rhwng ein gwledydd a chroesawaf y ffaith bod Uchel Gomisiwn India yn y DU a Chydffederasiwn Diwydiant India wedi penderfynu cynnal eu cynhadledd ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ym mis Hydref eleni."
Ychwanegodd y Prif Weinidog ynghylch ei drafodaethau â Llywodraeth India:
"Hoffwn ddiolch i’r Weinyddiaeth Materion Allanol am ei chefnogaeth gydol yr ymweliad hwn a phwysleisio’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i feithrin partneriaethau cryfach ag India. Yn sicr, bydd y ddwy wlad yn elwa ar hyn."
Bydd dirprwyaeth y Prif Weinidog yn symud i Mumbai lle y bydd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Tata, sy’n gyflogwr mawr yng Nghymru.











