Mewn neges a recordiwyd ar gyfer Coleg Brenhinol y Nyrsys i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar 12 Mai, y mae’r Prif Weinidog wedi datgan pa mor bwysig yw’r proffesiwn nyrsio i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Y nyrsys sydd wrth wraidd y GIG. Nhw yw asgwrn cefn y gwasanaeth, y bobl sy’n gweithio’n ddiflino o ddydd i ddydd i roi gofal pan fydd ei angen fwyaf.
"A’r nyrsys sy’n cynrychioli’r proffesiwn mwyaf yn y GIG yng Nghymru. Hebddynt, yn ddios, ni allai’r GIG weithredu. Mae’r gwaith a wnânt yn hanfodol i wneud yn siŵr fod pawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd yn derbyn y gofal gorau posibl.
"Y nyrsys sy’n treulio’r cyfnod hwyaf gyda chleifion. Felly, nhw sy’n diffinio profiad y claf o ofal, gan egluro, rhoi gwybodaeth, cysuro, a chefnogi pobl a’u teuluoedd drwy gydol eu triniaeth, a hynny yn aml dan amgylchiadau anodd.
"A dyna pam y mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys mor bwysig. Mae’n gyfle i ni i gyd ddweud diolch. Diolch i chi am fod mor broffesiynol, a diolch i chi am eich gofal.
"Mae Diwrnod y Nyrsys yn ddiwrnod i ddathlu’r gwaith caled a’r ymrwymiad y mae’r nyrsys yn eu cynnig ddydd a nos. I mi, mae’n gyfle arall i bwysleisio eto ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru ac i’r proffesiwn nyrsio.
"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r nyrsys am bopeth y maen nhw’n ei wneud."











