Bydd y Grant Amddifadedd Disgyblion newydd, sy’n werth £32.4 miliwn y flwyddyn, yn rhoi cymorth ymarferol i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Bydd pob ceiniog o’r arian yn mynd yn uniongyrchol i gyllidebau ysgolion.
Mae gwella’r dylanwad y mae cyrhaeddiad addysgol yn gallu ei gael ar dlodi yn un o addewidion allweddol y Rhaglen Lywodraethu – sef rhaglen o gamau gweithredu ymhob maes o’r Llywodraeth. Ar 29 Mai, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd cyntaf ar y rhaglen.
Bydd ysgolion yn gallu bod yn hyblyg wrth benderfynu sut i wario’r arian ychwanegol a ddarperir ar gyfer amddifadedd disgyblion. Cânt eu hannog i feddwl am lythrennedd a rhifedd yn benodol, sut i wella’r ffyrdd o olrhain cynnydd disgyblion penodol, a sut y mae gwasanaethau gwirfoddol, statudol a chymunedol yn gallu chwarae eu rhan, yn ogystal â rhieni.
Bydd pob ysgol yn derbyn swm sy’n seiliedig ar nifer y disgyblion rhwng 5 a 15 mlwydd oed sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sef £450 ychwanegol am bob disgybl cymwys.
Bydd y Prif Weinidog yn amlinellu manylion y grant pan fydd yn agor Ysgol yr Hendre newydd gwerth £9.3 miliwn yng Nghaernarfon.
Dywedodd:
"Mae’r arian newydd yma yn hwb mawr i’n hysgolion, ac mae iddo un nod clir – sef lleihau’r cyswllt sy’n bodoli rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ymarferol i sicrhau cyfleoedd addysgol gwell i’n plant mwyaf difreintiedig.
"Byddwn yn cydweithio’n agos ag ysgolion i sicrhau bod y grant yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfleoedd bywyd y rhai sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Mae gan fy llywodraeth ymrwymiad angerddol i ofalu bod pawb, ni waeth beth fo’u cefndir, yn gallu gwireddu eu llawn botensial.
"Rydym yn mynd ati i geisio sicrhau gwelliant i fywydau ein plant, a hynny er mwyn creu gwlad decach a mwy ffyniannus."
Bydd y Prif Weinidog yn agor Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon yn swyddogol. Mae’r adeilad yn un o’r ysgolion mwyaf caredig i’r amgylchedd yng Nghymru, a derbyniodd £4.3 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Cyfrannodd Cyngor Gwynedd a’r sector preifat hefyd at ei adeiladu.











