Cyflwynwyd dros 300 o geisiadau i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd ledled Cymru. Bydd nifer o bartïon stryd hefyd yn cael eu cynnal lle nad oes angen cau ffyrdd.
Bydd 200 o ffaglau golau yn cael eu cynnau ymhob rhan o Gymru mewn digwyddiadau a drefnir gan elusennau, cymunedau a chynghorau. Bydd cestyll Biwmares a Chaernarfon, sy’n safleoedd treftadaeth y byd, ymhlith y rhai a fydd yn arddangos ffaglau golau. Rhai o safleoedd eraill Cadw a fydd yn cymryd rhan yw Castell Coety, Castell Talacharn a Chastell Abertawe. Bydd tîm o’r elusen Walking with the Wounded yn cynnau ffagl olau ar gopa’r Wyddfa.
Yn Llundain, bydd naw cwch o Gymru yn cymryd rhan ym mhasiant y Jiwbilî Ddiemwnt ar afon Tafwys. Bydd yno bedwar cwch rhwyfo, sef Cwch John Kerr, Fleetwing, Cunnigar Stinger a Chalon Dyfi, tri chwch hanesyddol, un cwch cul ac un iot rasio.
Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt Ei Mawrhydi yng Nghadeirlan Sant Pawl ddydd Mawrth, 5 Mehefin. Ar yr un diwrnod, bydd yn cyflwyno Medalau’r Jiwbilî Ddiemwnt i rai o aelodau’r Gatrawd Frenhinol Gymreig mewn digwyddiad arbennig yn Swydd Wiltshire.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’r Jiwbilî Ddiemwnt yn gyfle inni longyfarch Ei Mawrhydi a thalu teyrnged i’r gefnogaeth gadarn y mae wedi ei rhoi i Gymru dros y trigain mlynedd ddiwethaf.
“Teg yw dweud bod hwn yn achlysur gwirioneddol hanesyddol, ac rwy’n cael y teimlad bod croeso iddo gan bobl o bob cefndir ac mewn gwahanol gymunedau ymhob rhan o Gymru.
“Mae Jiwbilî Ddiemwnt yn ddigwyddiad hynod anarferol. Mae canrif a mwy ers yr un ddiwethaf. Bydd llawer o bobl yng Nghymru yn dymuno estyn eu llongyfarchiadau am y gwasanaeth y mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi ei roi yn ystod ei theyrnasiad.”











