Bydd Mr Jones yn cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban ac Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Ynni a Newid Hinsawdd, Edward Davey, fel rhan o uwchgynhadledd ddiweddaraf y Cyngor Prydeinig – Gwyddelig.
Bydd Gweinidogion eraill Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Iwerddon, gweinyddiaethau datganoledig Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraethau Ynys Manaw, Jersey a Guernsey hefyd yn y cyfarfod yng Nghastell Stirling.
Bydd y Prif Weinidog yn tynnu sylw at botensial Cymru i gynhyrchu ynni glân o rym y môr.
Gan siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Carwyn Jones:
"Mae ynni’r môr yn faes o botensial mawr i Gymru ac rwyf am i ni fod ar flaen y gad o ran arloesi, ymchwil a datblygu.
"Gyda’n harfordir 1200 cilomedr o hyd, ein porthladdoedd môr dwfn a’n seilwaith grid hygyrch, mae dyfroedd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddiwallu anghenion y diwydiant. Gellid cynhyrchu llawer iawn o ynni – amcangyfrifir capasiti o 6.2GW, neu dros 10GW gan gynnwys Aber Afon Hafren.
"Mae’r heriau technolegol yn rhai sylweddol, ond mae gennym y cyfle i fanteisio ar ein hasedau naturiol i dyfu ein busnesau a chreu cyflogaeth."
Bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Jeff Cuthbert, hefyd yn yr Alban gyda’r Prif Weinidog i roi cyflwyniad cyffredinol ar ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gyflogaeth i bobl ifanc.











