Cynhelir gorymdaith fel rhan o’r digwyddiad yng Nghaerdydd, a bydd cofeb y South Atlantic Medal Association yng Ngerddi Alexandra yn cael ei hailgysegru. Rhoddodd y Prif Weinidog darlleniad yn ystod y gwasanaeth awyr agored.
Roedd pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog. Yn 2009 y cynhaliwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf, i gydnabod cyfraniad y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’r rhai sy’n dal i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £20,000 tuag at y dathliadau blaenllaw fydd yn cael eu cynnal yn ne a gogledd y wlad.
Fel arwydd pellach o’i hymrwymiad i roi mwy o gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gefnogaeth. Mae’r gefnogaeth honno’n cynnwys caniatáu i fwy o bobl fanteisio ar y cynllun tocynnau teithio rhatach a chaniatáu i gyn-filwyr a staff milwrol sydd ar eu gwyliau fanteisio ar gynlluniau nofio am ddim.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydyn ni yma heddiw i ddweud diolch i aelodau’r lluoedd arfog am y gwaith maen nhw’n ei wneud drosom ni. Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bob un ohonom ddangos ein gwerthfawrogiad a chydnabod agwedd broffesiynol, ymrwymiad ac aberth ein milwyr, yn ddynion a menywod.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru drwy weithio i wneud yn siŵr fod milwyr sydd ar wasanaeth a’u teuluoedd, yn ogystal â chyn-filwyr, yn gallu defnyddio gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion penodol nhw."











