Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn amlinellu’i weledigaeth o Deyrnas Unedig ‘newydd’

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn amlinellu’i weledigaeth o Deyrnas Unedig ‘newydd’ wrth annerch cynulleidfa yn San Steffan yn ddiweddarach heddiw
Dydd Iau 12 Gorffennaf 2012

Yn ei araith fawr gyntaf ar y mater y tu allan i Gymru, bydd y Prif Weinidog yn gofyn sut dylid llywodraethu gwahanol diriogaethau’r DU, a sut gysylltiadau ddylai fod rhwng eu llywodraethau a’u deddfwrfeydd yn y DU UK.

Bydd yn gwrthod annibyniaeth i Gymru drwy amlinellu’i weledigaeth o Deyrnas Unedig sy’n wleidyddol amrywiol, yn llac, ac yn cyfuno sawl canolfan o atebolrwydd gwleidyddol. Bydd yn datgan bod angen ail-lunio’r berthynas rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU.

Bydd yn galw am greu Confensiwn Cyfansoddiadol i greu cytundeb cyfansoddiadol newydd ar gyfer y DU sy’n gweddu i’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd Carwyn Jones yn dweud:

“Datganoli yw ewyllys pobl Cymru. Yn yr un modd â mwyafrif helaeth pobl Cymru, nid oes gennyf ddiddordeb mewn annibyniaeth i Gymru.

“Er mai mater i bobl yr Alban yw dyfodol cyfansoddiadol yr Alban, byddai Cymru’n difaru’n fawr pe bai’r Alban yn dewis annibyniaeth.”

Bydd yn dadlau’r achos dros Gonfensiwn Cyfansoddiadol:

“Ni allwn ni sy’n ymrwymo i’r DU esgus, os bydd yr Alban yn mynd, bod modd i’r Undeb barhau fel ag o’r blaen ar ei ffurf lai. Felly, yn hytrach na gadael i’r digwyddiadau ddadlennu ac ymateb mewn ffordd oddefgar i’r hyn sy’n digwydd wrth iddo ddigwydd, rwy’n credu y dylai cymdeithas wleidyddol a sifil ledled y DU fod yn trafod nawr am y math o Deyrnas Unedig yr ydym am ei gweld.

“Os bydd yr Alban yn penderfynu aros yn y DU, rydyn ni’n gwybod y bydd angen addasu, hynny yw drwy roi mwy o bwerau i Senedd yr Alban. A fyddai hynny’n destun trafod i’r Alban a Llywodraeth y DU yn unig, neu a ddylai aelodau eraill y DU ddweud eu dweud? Rwy’n credu y dylai holl rannau’r DU gyfrannu at y drafodaeth honno.

“Un mantais fawr o sefydlu Confensiwn yw y bydd yn galluogi cyfraniad sy’n fwy penodol Seisnig i’r drafodaeth. Mae’r trafodaethau dros y blynyddoedd diwethaf ar faterion cyfansoddiadol yn y DU wedi bod yn ymwneud yn bennaf, efallai’n anghyfrannol, â llywodraethu’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Nid yw llais Lloegr wedi cael ei glywed yn iawn eto. Mae’n drueni i mi nad oes digon o gyfraniad wedi bod gan Loegr hyd yn hyn, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o unioni’r cam hwn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 12 Gorffennaf 2012 Cyfansoddiad Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i