Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad wrth iddo roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar hynt rhaglen ddeddfwriaethol bum mlynedd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Y llynedd, amlinellais raglen ddeddfwriaethol bum mlynedd Llywodraeth Cymru o fwy nag 20 o filiau i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus a chreu cyfleoedd i bawb.
“Pan gyhoeddais ein rhaglen ddeddfwriaethol, dywedais y byddem yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid drwy Bapurau Gwyrdd a Gwyn ac yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sydd ar wyneb Bil y Cynulliad a’r manylion sydd yn yr is-ddeddfwriaeth. Dyna’n union rydyn ni wedi’i wneud.”
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r Bil Rheoli Cŵn newydd yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn flwyddyn nesaf i amddiffyn y cyhoedd drwy hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Bydd perchnogaeth gyfrifol yn hanfodol i’r newidiadau, a thrwy gyflwyno Hysbysiadau Rheoli Cŵn, bydd gofyniad cryf ar gyfer addysg a hyfforddiant i gŵn a’u perchnogion neu’u ceidwaid fel ei gilydd.
Dywedodd Carwyn Jones:
“Gwnaeth John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, ymrwymiad cryf i fynd i’r afael â’r mater hwn yn gynnar. Rwy’n falch felly o allu cadarnhau y byddwn yn ymgynghori ar y Bil Rheoli Cŵn yn yr hydref a fydd yn cynnig newidiadau allweddol i’r ddeddfwriaeth gyfredol ar gŵn peryglus. Er enghraifft, gellid cymryd camau lle mae cŵn yn ymosod ar bobl neu anifeiliaid eraill ar unrhyw safle a byddai rheolaethau’n canolbwyntio ar ymddygiad y ci yn hytrach na’i frid.”
Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno saith bil pellach, sef:
- Bydd y Bil Democratiaeth Leol yn gwneud etholiadau lleol a gweithgarwch cynrychiolwyr lleol yn fwy tryloyw.
- Mae’r Bil Trawsblannu Dynol yn gam mawr ymlaen o ran creu system o optio allan ar gyfer rhoi organau yng Nghymru. Caiff y Bil ei gyflwyno erbyn diwedd eleni gyda’r bwriad o roi system feddal o optio allan ar waith yn 2015.
- Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), am y tro cyntaf, yn creu fframwaith cyfreithiol cydlynol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno ddechrau 2013. Bydd yn cyfuno mesurau a oedd i fod yn rhan o Fil Plant a Phobl Ifanc i gryfhau’n cymorth i blant sy’n derbyn gofal, sefydlu gwasanaethau mabwysiadu unigol i Gymru, adolygu’n safbwynt ar ddiogelu a gosod safonau cenedlaethol, ac ystyried rôl a swyddogaeth Byrddau Lleol Diogelu Plant. Bydd Bil Rheoleiddio ac Arolygu yn cael ei cyflwyno i ymdrin â rheoleiddio ac arolygu’r gweithlu gofal cymdeithasol, hyfforddiant a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fyddwn yn cyhoeddi papur gwyn yn 2013.
- Bydd Bil Teithio Llesol yn cael ei gyflwyno ddechrau flwyddyn nesaf er mwyn helpu pobl Cymru i ddod yn iachach, yn fwy egnïol, ac yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd.
- Bydd Bil Gweithlu Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn flwyddyn nesaf i roi’r gweithlu wrth wraidd gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Hefyd cyhoeddodd y Prif Weinidog ddau Fil Addysg a fydd yn cael eu cyflwyno i helpu i feithrin cymdeithas gyfiawn, cynhwysol a theg.
- Bydd Bil Addysg Bellach ac Uwch yn cyflwyno nifer o argymhellion Adroddiad Humphreys ar lywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru. Bydd hefyd yn newid strwythur y corff sy’n gyfrifol am gynllunio strategol a chyllid Addysg Uwch a dibenion cysylltiedig eraill.
- Bydd Bil Addysg (Cymru) yn gwella rheoli perfformiad yn y byd addysg, ac yn diwygio’r system bresennol o ddatganiadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig.











