Meddai’r Prif Weinidog:
“Ar adeg y Ramadan, hoffwn i estyn dymuniadau gwresog i bob Mwslim yng Nghymru ac ym mhedwar ban y byd.
Rydyn ni i gyd yn rhannu’r gwerthoedd sy’n ganolog i Ramadan, sef elusengarwch, trugaredd a meddwl am eraill.
“Yn ystod y cyfnod hwn mae’r cymunedau Mwslemaidd yn dod ynghyd i weddïo a synfyfyrio, i rannu prydau ac i gefnogi’r rhai llai ffodus.
“Hoffwn ddymuno mis bendigedig i bawb sy’n dilyn y Ramadan, a heddwch a hapusrwydd trwy gydol y flwyddyn."











