Un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu yw’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus. Bydd yn helpu i hybu gwell canlyniadau i bobl Cymru drwy gryfhau’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a ffynonellau annibynnol o gyngor arbenigol ym maes polisi. Bydd hynny, yn ei dro, yn gwneud y broses o ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau yng Nghymru yn fwy effeithiol.
Mae amrywiaeth eang o sefydliadau sydd â diddordeb yn cael eu hannog i ymgeisio, gan gynnwys melinau trafod, sefydliadau ymchwil a sefydliadau Addysg Uwch. Bydd hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried amryw o fodelau posib.
Cyhoeddodd Mr Jones ei fwriad i greu’r Sefydliad yn ystod araith bwysig ar wasanaethau cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni.
Dywedodd Carwyn Jones:
“Wrth lansio ein Rhaglen Lywodraethu’r llynedd, dywedais fod llywio dyfodol Cymru yn rhywbeth sy’n bwysig i bob un ohonom. Mae hynny hefyd yn wir am ddatblygu polisïau newydd y dyfodol - polisïau a fydd yn ein helpu i newid bywydau pobl Cymru er gwell mewn ffordd ystyrlon a pharhaol.
“Rwy’n awyddus i gryfhau ein gallu i lunio polisi cyhoeddus yma yng Nghymru. Dyna pam fod lansio’r gystadleuaeth hon i redeg y Sefydliad Polisi Cyhoeddus newydd yn rhoi cymaint o foddhad imi.”
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn awyddus i’r sefydliad newydd weithredu hyd braich o’r Llywodraeth, ond eto mewn cydweithrediad agos â hi. Dylai fod yn dîm bach, hyblyg, sydd â llawer o hygrededd deallusol. Helpu Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y syniadau, yr ymchwil a’r dystiolaeth orau fydd ei swyddogaeth, gan weithio law yn llaw â rhwydwaith o arbenigwyr o bob maes – o’r byd academaidd i felinau trafod.
Ychwanegodd Mr Jones:
“Rwy’n awyddus i’r bobl fwyaf disglair yng Nghymru a thu hwnt weithio gyda ni i ystyried heriau’r dyfodol, a rhoi llais i’r weledigaeth a’r syniadau newydd sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r heriau hynny.
“Rwy’n gobeithio y bydd amrywiaeth eang o sefydliadau’n ymgeisio, gan gynnwys partneriaethau a phrosiectau cydweithredol. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi’r canlyniad tua diwedd y flwyddyn.”











