Mae distyllfa wisgi fach Da Mhile yn Llandysul yn defnyddio cynnyrch organig lleol i gynhyrchu wisgi. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £60,000 tuag at y datblygiad newydd. Sgubor sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw cartref y ddistyllfa, ac mae yno ganolfan ar gyfer ymwelwyr hefyd.
Sefydlwyd y cwmni gan John Savage-Onstwedder, sy’n ffermwr organig. ‘2000’ yw ystyr yr ymadrodd Gaeleg Da Mhile, sef y flwyddyn gyntaf i John werthu wisgi a gynhyrchwyd ganddo.
Wrth fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa cafodd y Prif Weinidog gyfle i weld y broses gynhyrchu drosto’i hun, yn ogystal â blasu’r wisgi. I nodi’r achlysur, fe gomisiynodd y ddistyllfa stôl arbennig, ‘stôl flasu’r Prif Weinidog’ a wnaed o un o gasgenni wisgi gwreiddiol Da Mhile o 1992.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Pan soniwch am wisgi, mae pobl yn tueddu i feddwl am yr Alban ac Iwerddon, ond roedd y gwirod yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru hyd at ganrif yn ôl. Mae heddiw yn arwydd ein bod yn mynd gam yn nes at y traddodiad hwnnw. Gobeithio y bydd wisgi o Gymru yn cael ail wynt heddiw.
“Mae’n bleser mawr gen i fod yma heddiw i agor distyllfa Da Mhile yn swyddogol. Mae’r fenter wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn agor ei drysau. Bydd y wisgi sy’n cael ei gynhyrchu yma yn cyfrannu at hybu bwyd a diod o Gymru, nid yn unig yn y DU, ond ym mhob cwr o’r byd.”
Dywedodd John Savage-Onstwedder:
“Fel rhywun a chwaraeodd ran ganolog yn y gwaith o gynhyrchu Da Mhile, wisgi organig cynta’r byd nôl ym 1992 er mwyn dathlu’r mileniwm, mae gallu cynhyrchu ein wisgi, ein gwirodydd a’n gwirodlynnau yn ein Distyllfa Da Mhile ni ein hunain yma ger Llandysul yng Ngheredigion yn gwireddu breuddwyd.
“Heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl. Fe wnaeth ein cynnyrch cyntaf, Orange 33, gwirodlyn oren organig, ennill gwobr efydd yng Ngwobrau’r Gwir Flas y llynedd gyda’r batsien cyntaf a gynhyrchwyd, ac yn y dyfodol rydyn ni’n bwriadu cynhyrchu wisgi, gwirodydd a gwirodlynnau o’r safon uchaf y gall Cymru gyfan fod yn falch ohonynt.”
Roedd ymweliad y Prif Weinidog yn dilyn cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne.











