Bu farw David Powell, Charles Breslin, Philip Hill a Garry Jenkins yn y pwll yng Nghilybebyll, ger Pontardawe.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Byddaf i’n cofio’r hyn a ddigwyddodd am byth. Gallwn ond dychmygu pa mor echrydus oedd profiad ofnadwy’r teuluoedd wrth aros am newyddion am y dynion fu farw.
“Rhaid oedd iddynt aros am oriau maith cyn clywed y newyddion ofnadwy. Mae’n rhaid bod hynny wedi bod yn erchyll i wragedd, meibion a merched y dynion druan. Anfonaf fy nghydymdeimladau diffuant i’r teuluoedd ar yr adeg anodd hon, flwyddyn yn ddiweddarach.
“Effeithiodd yr hyn a ddigwyddodd yn y Lofa yng Nghilybebyll arnom ni i gyd. Fel y dywedais bryd hynny – roedd yn drychineb i Gymru gyfan. Mae’r diwydiant glo yn rhan o hunaniaeth Cymru, roedd yn rhan hollbwysig o lunio’n gwlad.
“Rhaid i ni gofio’r bywydau sydd wedi’u colli wrth gloddio am lo dros y blynyddoedd. Yn sgil y digwyddiadau erchyll flwyddyn yn ôl, cawsom oll ein hatgoffa o’r peryglon y mae glowyr yn eu hwynebu bob tro y byddan nhw’n mynd i’r pwll ar ddechrau eu diwrnod gwaith.
“Roedd y ffordd y daeth y gymuned ynghyd i gefnogi’r teuluoedd, a charedigrwydd y cymdogion yn ystod yr amser anodd, yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Rwyf hefyd yn dymuno talu teyrnged i’r gwasanaethau brys a weithiodd yn ddiflino gan wneud eu gorau glas, mewn amgylchiadau peryglus, i chwilio am y glowyr.
“Rhaid i ni gofio trychineb Gleision a dysgu gwersi er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod digwyddiadau fel hyn yn perthyn i’r gorffennol.”











