Yn dilyn y cyfarfod, aeth y Gweinidogion ar gyfres o ymweliadau i wahanol leoedd yn y Gorllewin er mwyn gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i hybu’r economi a threchu tlodi yn yr ardal.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gallu treulio cyfran helaeth o’u hamser yn ymweld â gwahanol fannau yng Nghymru, yn gwrando ar farn pobl ac yn trafod ein polisïau. Dyna’r fraint y mae cael ein Llywodraeth ein hunain yng Nghymru yn ei rhoi ni fel Gweinidogion.
"Mae cynnal cyfarfod y Cabinet yn Sir Gaerfyrddin yn rhoi’r cyfle inni drefnu nifer o ymweliadau yn yr un ardal ar yr un diwrnod, sy’n rhywbeth nad ydyn ni wedi’i wneud o’r blaen. Bydd hynny’n rhoi cyfle gwerthfawr inni gael cipolwg ar y camau gweithredu sydd gennym ar y gweill i hybu economi’r ardal yn y cyfnod anodd hwn.”











