Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Datblygu sgiliau peirianneg yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi tynnu sylw at gyfraniad hollbwysig peirianneg i fyd busnes a diwydiant, yn seremoni wobrwyo Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yng ngwesty’r Celtic Manor.
Dydd Llun 26 Mawrth 2012

Er mwyn datblygu sgiliau ac arbenigedd myfyrwyr chweched dosbarth y sefydlwyd Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.

Nod y cynllun yw annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn peirianneg drwy amryw o weithgareddau a gynhelir ar y cyd â byd diwydiant. Mae’n helpu i gyflawni agenda addysgu’r pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru’n galluogi timau o 5 neu chwe myfyriwr Blwyddyn 12 i gwblhau prosiect chwe mis gyda chwmni peirianneg. Gosodir tasgau ymchwil a datblygu i’r myfyrwyr er mwyn iddynt ddatrys problemau ‘go iawn’ a wynebir o fewn y diwydiant.

Roedd y seremoni wobrwyo yn rhoi llwyfan hefyd i arddangos prosiectau gan fyfyrwyr chweched dosbarth, prifysgolion a cholegau yn ogystal â chyflenwyr cyfarpar lleol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Roeddwn yn falch dros ben o gael y gwahoddiad i gyflwyno’r gwobrau hyn a dathlu llwyddiant y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghynllun Addysg Beirianneg Cymru.

“Mae cyfraniad y Cynllun hwn yn hynod werthfawr ar gyfer hyrwyddo’r pynciau STEM, a thrwy ein Hacademi Wyddoniaeth Genedlaethol rydym yn annog a chefnogi’r gweithgareddau hyn.

“Gwyddoniaeth, Technoleg, Mathemateg a Pheirianneg yw’r sylfaen ar gyfer arloesi ym myd busnes a diwydiant, a bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gryfhau’r berthynas rhwng diwydiant ac addysg, gan helpu pobl ifanc i ennill dealltwriaeth go iawn o fyd gwaith. Mae ffrwyth y berthynas hon i’w weld yn amlwg yn y digwyddiad heddiw.

“Cafwyd cydnabyddiaeth eang o bwysigrwydd y pynciau hyn ar bob lefel wrth inni baratoi ein Strategaeth wyddoniaeth newydd (Gwyddoniaeth i Gymru - agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesed yng Nghymru). Mae’r pynciau STEM yn hollbwysig i fusnesau gweithgynhyrchu a thechnolegol a gan hynny maent yn hybu twf economi Cymru.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 26 Mawrth 2012 Programme for Government - Education Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i