Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

“A ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân?”

Fydd Llywodraeth Cymru yn lansio trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân heddiw.
Dydd Mawrth 27 Mawrth 2012
  • Mae gan y Cynulliad y pŵer yn awr i basio Biliau’r Cynulliad sy’n troi’n gyfreithiau unwaith y mae Ei Mawrhydi yn rhoi Cydsyniad Brenhinol. O fewn ei bwerau caiff y Cynulliad, drwy Ddeddf, wneud unrhyw beth y gallai un o Ddeddfau Senedd y DU ei wneud.
  • Gan fod Cymru a Lloegr yn un awdurdodaeth gyfreithiol mae cyfreithiau a wnaed gan y Cynulliad neu gan Senedd y DU yn parhau i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr, hyd yn oed os mai’r bwriad yw  eu gweithredu yng Nghymru yn unig.
  • Mae’r sefyllfa, i’r perwyl hwn, yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan fod gan y naill a’r llall awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân. Felly, er enghraifft, mae Deddfau Senedd yr Alban yn berthnasol i’r Alban yn unig, ac nid ydynt yn rhan o’r gyfraith mewn unrhyw diriogaeth arall o fewn y DU.

Ym mis Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru “ie” mewn refferendwm ynghylch rhoi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud deddfwriaeth sylfaenol mewn ugain maes polisi datganoledig.

Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru, yn parhau i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Nid yw hynny’n wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd ag awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

Ers 1999, mae’r gwahaniaethau rhwng cyfreithiau Cymru a chyfreithiau Lloegr wedi cynyddu – yn enwedig ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol – er mwyn cwrdd ag anghenion penodol pobl Cymru.

O ganlyniad i’r refferendwm, gwelwyd llawer o drafod ynghylch a ddylai Cymru hefyd fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio. Yn 2011, traddododd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, araith i Gynhadledd Cymru’r Gyfraith lle cyhoeddodd bod angen cynnal trafodaeth gyhoeddus ar fater Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones:

“Mae natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig wedi newid yn sylweddol er pan ddatganolwyd pwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym 1999.

“Mae Cymru yn hen wlad, ond yn ddemocratiaeth ifanc. Fel y Prif Weinidog, fy mhrif flaenoriaeth yw gwneud i ddatganoli weithio fel ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru. Mae’n hanfodol datblygu system gyfreithiol sy’n addas ar gyfer Cymru iach a ffyniannus.

“Yn anorfod, bydd datganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y bydd cyfreithiau sy’n fwy neilltuol Gymreig yn berthnasol i Gymru yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd yna wahaniaethau cynyddol rhwng y cyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru a’r cyfreithiau sy’n gymwys yn Lloegr.

“Rydym ni’n teimlo ei bod yn hanfodol erbyn hyn cael trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio, ynghyd â goblygiadau posibl hyn ar gyfer Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”  

Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle CF:

“Ar hyn o bryd, mae’r holl gyfreithiau sy’n cael eu pasio ar gyfer Cymru, boed hynny gan y Cynulliad, Gweinidogion Cymru, Senedd San Steffan neu Weinidogion Llywodraeth y DU, yn dod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Mae hyn oherwydd bod Cymru a Lloegr yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a bod un system o lysoedd, barnwyr a phroffesiynau cyfreithiol wedi datblygu’n nodwedd neilltuol o’r awdurdodaeth honno.

“Rydym ni’n glir y gall awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân fodoli o fewn Teyrnas Unedig – mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau eu hunain sy’n wahanol i’r un ar gyfer Cymru a Lloegr.  

“Yn y cyd-destun hwn, dyma’r amser iawn i ystyried a dylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru neu beidio.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ymgynghoriad ar Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 27 Mawrth 2012 Cyfansoddiad Cwnsler Cyffredinol Deddfwriaeth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i