Roedd yn annerch digwyddiad ‘Cymru a’r Undeb yn Newid' a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Byddai rhai pobl yn dweud mai gwerth academaidd yn unig sydd yna i drafodaethau cyfansoddiadol, ond rhaid i mi anghytuno â hynny. Bydd canlyniadau’r trafodaethau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y ffordd yr ydym ni fel Llywodraeth yn darparu ein gwasanaethau i bobl Cymru.
“Rydyn ni ar fin gweld newidiadau cyfansoddiadol anferth yn y Deyrnas Unedig. Mae yna achos cryf dros ddiwygio ein sefydliadau canolog er mwyn adlewyrchu’r realiti sy’n datblygu o Deyrnas Unedig sy’n fwy llac. Fe ddylem ni fod yn symud ymlaen fel Undeb at gyfansoddiad sy’n adlewyrchu’r unfed ganrif ar hugain, nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Mae’n rhaid i ni ystyried y posibilrwydd o gyfansoddiad ysgrifenedig a fyddai, yn rhannol, yn diffinio’r berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Mae’r Deyrnas Unedig wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth dros y 15 mlynedd diwethaf ac mae’n bryd i’n cyfansoddiad adlewyrchu hynny.”
Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd gyfeirio at oblygiadau annibyniaeth i’r Alban.
“Mater i bobl yr Alban yw annibyniaeth i’r Alban. Ond rwyf i’n credu yn y Deyrnas Unedig ac rwy’n credu’n gryf ein bod ni, fel Undeb, yn gryfach gyda’n gilydd nag ar wahân. Os bydd pobl yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yna bydd patrwm cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn newid yn sylfaenol.
“Yn yr un modd, os bydd yna bleidlais yn erbyn annibyniaeth, mae’n bosibl y bydd yna newid cyfansoddiadol sylweddol mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig a allai effeithio ar bob rhan arall o’r Undeb. Rwyf i, felly, wedi galw am Gonfensiwn Cyfansoddiadol a fyddai’n cynnig y cyfle i’r pedair gwlad yn yr Undeb drafod ei ddyfodol. Rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y mater hwn, ac rwy’n disgwyl am ei ymateb.”
Fe wnaeth hefyd yn mynegi ei farn am yr achos cryf dros ddatganoli rhai trethi i Gymru, a’r angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca newydd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.











