Yn ystod ei ymweliad tynnodd y Prif Weinidog sylw at bwysigrwydd gwella seilwaith trafnidiaeth Cymru.
Meddai'r Prif Weinidog:
“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydyn ni wedi buddsoddi bron i £80m i wella ffyrdd ein gwlad. Mae trafnidiaeth yn hanfodol i’n bywydau bob dydd ac yn dyngedfennol i gefnogi twf economaidd Cymru. Dyna pam ein bod yn buddsoddi’n sylweddol mewn cynlluniau a fydd yn cyflawni ein gweledigaeth o system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy.“Hefyd, mae datblygu’r cynlluniau hyn yn rhoi hwb uniongyrchol i’r economi leol drwy ddarparu cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth a hyfforddiant yn ystod y gwaith adeiladu.”
Bydd y ffordd newydd yn sicrhau bod y traffig yn llifo’n haws rhwng y dwyrain a’r gorllewin gan arwain at ansawdd bywyd gwell i’r cymunedau hynny gyda llai o sŵn traffig, a mwy o ddiogelwch ac ansawdd yr awyr yn well.
Caiff y ffordd newydd ei hadeiladu gan SRB Civil Engineering. Dechreuodd y gwaith ychydig wythnosau yn ôl a disgwylir y bydd yn dod i ben yn 2014.











