Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pwysigrwydd Tata ar agenda taith fasnach i India

Roedd pwysigrwydd Tata i economi Cymru’n bwnc blaenllaw ar agenda’r daith fasnach i India wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gwrdd â Chadeirydd y cwmni yn Mumbai.
Dydd Gwener 13 Ebrill 2012

Cafodd y Prif Weinidog drafodaethau gyda Balasubramanian Muthuraman yn ystod rhan ddiweddaraf taith fasnach Llywodraeth Cymru i India. Mae Tata yn gyflogwr allweddol yng Nghymru, gan gyflogi bron i 8,000 o bobl.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Tata i economi Cymru ac rydyn ni’n meddwl yn fawr o’r berthynas glos ac agored sydd gennym. Hoffwn ddiolch i Mr B Muthuraman am gyfarfod calonogol ac adeiladol. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi gweithredoedd y cwmni a’i fuddsoddiad yng Nghymru fel y gallwn sicrhau dyfodol hirdymor disglair drwy weithio gyda’n gilydd. Mae Tata’n enghraifft wych i amlygu’r cyfleusterau, y gweithlu a’r gefnogaeth o’r radd flaenaf sydd gan Gymru i’w cynnig i fusnesau rhyngwladol mawr."

Yn dilyn ei gyfarfod gyda Tata, cafodd y Prif Weinidog ginio busnes gyda chwmnïau o India cyn cynnal trafodaethau gyda Prithviraj Chavan, Prif Weinidog talaith Maharashtra, sef un o’r taleithiau mwyaf cyfoethog yn India.  Amcangyfrifir bod tua 112 miliwn o bobl yn byw yno.

Bydd rhai o ddirprwyon y daith fasnach yn mynd ymlaen i Bangalore, sef dinas fasnachol fawr arall yn India.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 13 Ebrill 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Hydref 2014
Ll M M I G S S
<< Med    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i