Bwriad y cwmni rhannau ceir o Japan yw creu dros 500 o swyddi newydd ar y safle dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y safle, sy’n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn cynhyrchu rhannau mewnol ar gyfer ceir o eleni ymlaen ac mae Toyoda Gosei wedi buddsoddi mwy na £10 miliwn yn y ffatri.
Mae’r diwydiant modurol yn ganolog i economi Cymru, gyda thros 150 o gwmnïau yn cyflogi mwy na 20,000 o bobl.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae hwn yn enghraifft arall o hyder yng Nghymru ac mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwn, sy’n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn creu 500 o swyddi newydd o ansawdd uchel. Mae hwn yn hwb enfawr i’r economi leol.
"Mae’n bleser cael dathlu agoriad mawreddog y safle newydd hwn. Mae’r ffaith i Toyoda Gosei ddewis lleoli’r ffatri yma yng Nghymru yn dangos bod gennym fel gwlad weithlu sy’n gallu cystadlu ar gyfer cyfleusterau gweithgynhyrchu o safon fyd-eang. Bydd fy llywodraeth yn parhau i wneud y cyfan a allwn i helpu Toyoda Gosei i dyfu a ffynnu."











