Mae’r gwasanaeth yng Nghaerdydd yn gychwyn taith o amgylch Cymru i ddathlu’r Jiwbilî Diemwnt.
Dywedodd Carwyn Jones:
"Llongyfarchiadau i’w Mawrhydi y Frenhines wrth iddi ddathlu 60 o flynyddoedd ar yr orsedd. Rwy’n siŵr y bydd pobl Cymru yn estyn croeso cynnes i’w Mawrhydi wrth iddi gychwyn ar ei thaith o amgylch y wlad i ddathlu’r Jiwbilî Diemwnt."











