Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau gyda Llysgennad Japan

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi croesawu Llysgennad Japan yn y DU i Gymru i gynnal trafodaethau ar y berthynas rhwng y ddwy wlad.
Dydd Iau 26 Ebrill 2012

Mae ei Ardderchogrwydd Keiichi Hayashi, Llysgennad Japan, yng Nghaerdydd fel rhan o ymweliad deuddydd â Chymru.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae’n bleser gen i groesawu’r Llysgennad i Gymru. Mae’r cysylltiadau busnes a diwylliannol hirfaith a dwfn rhwng Cymru a Japan yn bwysig iawn i Lywodraeth Cymru.

"Mae cymaint o gwmnïau llwyddiannus o Japan wedi’u lleoli yng Nghymru ac fe barhawn i wneud ein gorau glas i’w helpu i dyfu a ffynnu, yn enwedig yn ystod cyfnodau economaidd anodd fel sydd ohoni.

"Dim ond yr wythnos ddiwethaf, agorais safle newydd Toyoda Gosei yn ne Cymru yn swyddogol. Yn y pen draw, bydd y safle’n cyflogi mwy na 500 o bobl ac rwyf yn awyddus i annog mwy o fuddsoddi yng Nghymru gan gwmnïau o Japan."

Bydd Llywodraeth Cymru’n arwain taith fasnach i Japan y mis Tachwedd hwn. Mae Cymru’n gartref i 50 o fusnesau o Japan sy’n cyflogi cyfanswm o tua 8000 o bobl. Ymhlith y rhain mae Toyota, Sony, Panasonic a Calsonic Kansei.

Mae gan Lywodraeth Cymru Swyddfa yn Tokyo sy’n helpu cwmnïau o Gymru sydd am gael mynediad i farchnad Japan neu ehangu eu busnes. Ym mis Mawrth eleni, rhoddwyd cymorth i nifer o gwmnïau bwyd o Gymru a fu’n arddangos eu cynnyrch yn Foodex Tokyo.

Yn ogystal â chysylltiadau economaidd, mae gan y ddwy wlad gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol hefyd. Mae yna Glwb Japan yng Nghymru a Chlwb Hiraeth yn Japan.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Prif Weinidog Cymru

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 26 Ebrill 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i