Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn agor gweithfa beiriannau flaengar ym Mhontardawe

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi agor gweithfa flaengar ym Mhontardawe a fydd yn cynhyrchu cydrannau technoleg uwch ac yn cadw swyddi yng Nghymru.
Dydd Gwener 04 Mai 2012

Bydd gweithfa beiriannau newydd Wall Colmonoy yn cynhyrchu castiadau aloi nicel a chobalt o’r safon uchaf. Defnyddir i cydrannau hyn mewn diwydiannau caled fel awyrofod, modurol, cemegol, rasio Formula 1 a chynhyrchu pŵer.  

Caiff 230 o bobl eu cyflogi ar y safle a bydd 80 y cant o’r nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu yno’n cael eu hallforio.

Mae’r cyfleuster 25,000 troedfedd sgwâr newydd yn rhan o brosiect mawr i ehangu adnoddau gweithgynhyrchu Pontardawe. Costiodd tua £9 miliwn, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o £2 miliwn.

Aeth y Prif Weinidog ar daith o’r safle gyda Bill Clark, cadeirydd a pherchennog y rhiant-gwmni o UDA, gan weld cyfleusterau cynhyrchu a chynhyrchion Wall Colmonoy â’i lygaid ei hun.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Rwy’n falch iawn o gael agor y cyfleuster peirianneg blaengar hwn, sy’n dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl ddynion a menywod sydd wedi gwneud Wall yn fath fusnes llwyddiannus heddiw.  

"Mae’r penderfyniad i ehangu yma ym Mhontardawe yn hwb mawr i weithgynhyrchu yng Nghymru ac i economi Cymru. Mae gallu Wall Colmonoy i fod yn gystadleuol ac ymrwymo i Gymru yn y cyfnod economaidd anodd hwn yn dangos ymroddiad go iawn a bydd fy llywodraeth yn parhau i’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wall Colmonoy Ltd, Norman Allnatt:

"Mae’r cwmni bod yng Nghymru ers dros 40 mlynedd ac mae’r cwmni wedi ffynnu drwy gymorth parhaus Llywodraeth Cymru a’i ragflaenydd, gan gadw swyddi o safon a pharhau â hanes metelegol yr ardal."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 04 Mai 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Rhagfyr 2014
Ll M M I G S S
<< Tac    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31        
I'n dilyn ni trowch i