Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, a elwir yn ‘Diwrnod VE’, yn coffáu’r dyddiad y derbyniodd y Cynghreiriaid ildiad diamod yr Almaen Natsïaidd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Bydd pawb ledled Cymru yn uno i barchu’r bobl a fu’n brwydro’n ddewr i sicrhau’r rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.
"Pan gyhoeddwyd Buddugoliaeth yn Ewrop ar 8 Mai 1945, roedd llawer o’n lluoedd arfog yn dal i ymladd mewn rhannau eraill o’r byd, ond roedd yr ildiad yn galondid i’r genedl.
"Ar y diwrnod hwnnw, roedd diwedd y rhyfel a’r holl farwolaethau yn ymddangos yn agosach. Diwrnod VE oedd dechrau diwedd y rhyfel ac rydyn ni’n ddyledus i’r dynion a’r menywod a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd."











