Wrth siarad mewn digwyddiad i ddathlu ‘Diwrnod Ewrop’, fe lansiodd y Prif Weinidog Strategaeth Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r modd y bydd ei lywodraeth ef yn hyrwyddo ac amddiffyn buddiannau Cymru yn yr UE.
Roedd y Prif Weinidog yn tynnu sylw ar y meysydd lle mae Cymru’n cydweithio’n agos â’r UE – meysydd fel datblygu economaidd, amaethyddiaeth a’r newid yn yr hinsawdd.
Lansiwyd y Strategaeth hon yn sgil trip y Prif Weinidog i Frwsel ym mis Chwefror eleni i atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Ewrop.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar fywydau pobl Cymru ac yn gwneud cyfraniad pwysig at ffyniant ein cenedl. Mae’r penderfyniadau a’r deddfau wneir yn Ewrop yn effeithio ar Gymru – o ran busnes a masnach, amaethyddiaeth, datblygu gwledig a datblygu rhanbarthol.
"Mae bod yn rhan o Ewrop yn beth da i Gymru; mae’n dda i swyddi ac yn dda i’r economi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i feithrin partneriaeth lewyrchus â’r Undeb Ewropeaidd – partneriaeth a fydd yn ein helpu ni i gryfhau ein heconomi a chreu ffyniant cynaliadwy.
"Mae arian o Ewrop yn cefnogi datblygu cynaliadwy ac yn helpu i gynnal ein heconomi wledig ni hefyd. Mae ein traethau glân, ansawdd yr aer ac iechyd ein hanifeiliaid fferm ni yn ganlyniad camau gweithredu a gymerwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop yn cael effaith arnom ni yma, yng Nghymru. Allwn ni ddim dianc rhag y tueddiadau ar y cyfandir a thrwy’r byd, a dyna pam mae’n bwysig inni weithio’n barhaus ar wella sefyllfa Cymru o fewn yr UE.
"Mae’r byd yn lle cystadleuol iawn, ac mae angen i Gymru wynebu’r her honno os ydym i ffynnu a llwyddo. Allwn ni ddim gwneud hyn ar ben ein hunain ac thrwy’r UE y cawn ni fynediad at economi fwya’r byd.
"Wrth drafod â buddsoddwyr o Tsieina, India, UDA a thu hwnt, rwy’n gwybod i sicrwydd bod aelodaeth sefydlog a hirdymor o’r UE yn hollbwysig i wneud Cymru’n ddeniadol i fuddsoddwyr. Oherwydd hynny, byddaf yn gwneud fy ngorau bob amser i hybu buddiannau Cymru yn Ewrop."











