Cyhoeddodd y Gweinidogion yn Llundain ym mis Mawrth gynigion i gau saith o blith naw o ffatrïoedd Remploy yng Nghymru.
Mae staff ffatri Porth sy’n bryderus ynghylch goblygiadau’r cynlluniau wedi gwahodd y Prif Weinidog i gwrdd â hwy. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i warchod swyddi gweithwyr anabl Remploy yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau’r cymhorthdal y mae’n ei roi i Remploy yn arwain at gau rhai ffatrïoedd yn llwyr. Golyga hyn y bydd cannoedd o bobl ar draws Cymru yn colli eu swyddi. Nid ydynt wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r angen i gynnal swyddi ar gyfer pobl anabl a’r canlyniad yw fod grŵp o weithwyr sy’n agored i niwed yn wynebu colli eu swyddi. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl.
"Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud popeth posibl i gefnogi gweithwyr Remploy a dyma pam rwyf wedi dod yma heddiw i wrando ar eu pryderon. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r staff, yr undebau ac â phobl eraill berthnasol er mwyn gweld a oes unrhyw opsiynau eraill ymarferol ar gyfer y ffatrïoedd hyn. Rwy’n credu’n gryf fod angen gwarchod swyddi bobl a fyddai o dan anfantais ddifrifol ac annheg o fewn y farchnad lafur agored."
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Strategol o uwch randdeiliaid sydd â diddordeb yn nyfodol ffatrïoedd Remploy yng Nghymru. Bydd y Bwrdd hwn yn pwyso a mesur opsiynau posibl ar gyfer y safleoedd ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU er mwyn ceisio cynnal y swyddi yng Nghymru.











