Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg yn mynychu cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a gaiff ei gadeirio gan Nick Clegg, y Dirprwy Brif Weinidog. Bydd Gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig eraill ac o Lywodraeth y DU yno hefyd.
Bydd cynigion dadleuol i newid y system les ar yr agenda. Mae Llywodraeth Cymru wedi lleisio anesmwythyd, dro ar ôl tro, y bydd y newidiadau yn effeithio ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydym wedi gwneud safbwynt Llywodraeth Cymru yn hollol eglur – teimlwn y bydd y diwygiadau i’r system les sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn taro Cymru yn waeth na gweddill y DU.
"Mae’r egwyddor o ddiwygio’r system les yn iawn cyn belled â’i bod yn rhoi gwir gymorth i unigolion i’w helpu i ddod o hyd i waith, a’i gadw. Ond bydd y cynigion hyn yn ergyd drom i rannau o Gymru ac mae’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gyfle inni leisio ein pryderon diamheuol."
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg:
"Mae’r cynigion hyn yn destun pryder difrifol inni, a dyna pam ein bod wedi sefydlu grŵp Gweinidogol ar y lefel uchaf i edrych ar effaith y diwygiadau lles ar Gymru ac ystyried sut y gallwn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym eisoes yn cynnal asesiad cynhwysfawr o effaith y diwygiadau fel y gallwn weld darlun o’r hyn y bydd y newidiadau yn ei olygu, mewn gwirionedd, i gymunedau ledled Cymru."











