Roedd y Prif Weinidog yn ymweld â’r Ganolfan Cydgysylltu Strategol ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn lle’r oedd y gwaith yn cael ei drefnu. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu â rhai a fu’n cymryd rhan yn y gwaith a oedd yn cael ei arwain gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Pritchard, a chafodd wybod am y gwaith achub ac arbed.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i bawb a gymerodd ran yn y gwaith yma. Roedd y gwaith achub ar y noson ei hun wedi gorfod cael ei wneud mewn tywydd difrifol, ac wedyn cwblhawyd y gwaith arbed yn gynt na’r disgwyl.
“Mae’r digwyddiad wedi dangos asiantaethau’n cydweithio ac yn cael eu cydgysylltu o’r ganolfan yma yn Heddlu Gogledd Cymru. Bydd tua 99 y cant o’r llong yn cael ei hailgylchu, ac ni fydd unrhyw oblygiadau i amgylchedd arfordir y gogledd yn y tymor hir.
“Rwy’n falch o fod yma heddiw i fynegi fy ngwerthfawrogiad yn bersonol, ac i weld y Ganolfan Cydgysylltu Strategol, sef un o’r tair canolfan yr ydyn ni wedi eu sefydlu yng Nghymru i ymateb yn brydlon ac effeithiol i unrhyw argyfwng sifil.”
Cafodd y Canolfannau Gydgysylltu Strategol ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd eu hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, a roddodd £10 miliwn, a’r pedwar Awdurdod yr Heddlu. Mae’r canolfannau modern a thechnolegol, a agorwyd ym mis Medi 2011, yn creu seilwaith sy’n hwyluso gwaith cynllunio, hyfforddi ac ymarfer amlasiantaethol, a hefyd yn lle i reoli’r gwaith o ymateb i argyfyngau.











