Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn croesawu’r Fflam Olympaidd i Gymru

Fydd y fflam Olympaidd yn cyrhaedd Cymru heddiw, gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu cymal diweddaraf y daith o amgylch y DU.
Dydd Gwener 25 Mai 2012

Bydd y fflam yn teithio drwy fwy nag 80 o bentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru rhwng 25 a 30 Mai. Bydd cannoedd o redwyr yn cludo’r fflam ar hyd y llwybr drwy bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae pawb fydd yn cludo’r fflam yn bobl ysbrydoledig â hanesion personol anhygoel i’w hadrodd.

Y fflam fydd canolbwynt pedwar digwyddiad dathlu mawr yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Fydd y Prif Weinidog yn croesawu’r fflam mewn digwyddiad yn Nhrefynwy.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae’n dda cael croesawu’r fflam Olympaidd i Gymru gan fod hwn yn gyfle gwych i bawb sydd wedi’u dewis i gludo’r fflam ddangos i’r byd y pethau sy’n gwneud Cymru’n unigryw.

"O farchogaeth cob Ceredigion a theithio ar gwch camlas Llangollen, i basio eiconau hen a newydd, fel Castell Caerffili a Stadiwm y Mileniwm, bydd hon yn wythnos gyffrous i’r daith a phawb fydd yn rhan ohoni."

Mae nifer sylweddol o wledydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn y Gemau yn Llundain. Mae’r carfanau Paralympaidd sy’n hyfforddi yng Nghymru yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, Mecsico, Tsieina a charfan feicio Paralympaidd UDA.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae’r ffaith bod cynifer o wledydd wedi dewis hyfforddi yma yng Nghymru cyn y Gemau yn adlewyrchu gwaith caled Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y cyfnod cyn Llundain 2012. Mae’n dangos bod gennym y cyfleusterau a’r seilwaith chwaraeon y mae eu hangen ar y timau Olympaidd a Pharalympaidd gorau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Gwefannau

2012 blog

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 25 Mai 2012 Gemau olympaidd 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i