Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymorth ariannol i ddatblygu entrepreneuriaid ifanc Gwynedd ac Ynys Môn

Cafodd cynllun i greu diwylliant arloesi ymysg pobl ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn hwb ariannol ychwanegol wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyhoeddi £60,000 ar gyfer Llwyddo’n Lleol.
Dydd Iau 07 Mehefin 2012

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ledled y pedwar awdurdod lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bydd y £60,000 yn mynd tuag at weithgareddau yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac mae wedi dod o raglen Ardal Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â stondin Cyngor Gwynedd yn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon lle cyfarfu â phobl ifanc sydd wedi elwa o’r cynllun Llwyddo’n Lleol.  Bwriad y cynllun yw atal y llif o bobl ifanc sy’n symud o gefn gwlad drwy gyfres o weithgareddau sy’n datblygu diwylliant arloesi.

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn mynd tuag at y digwyddiadau ar gyfer sectorau penodol fydd yn help i ysbrydoli a meithrin disgyblion Blwyddyn 9 ar eu dewis o bynciau ac ystyriaethau gyrfaol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae’n bwysig bod gan bobl ifanc y cyfle i ddilyn gyrfa yn yr ardal leol.  Mae Llwyddo’n Lleol yn helpu i wneud hyn drwy roi hyder a sgiliau arloesi i bobl ifanc, fydd yn ei dro o gymorth i ddatblygu’r economi leol.  Mae yna ganlyniadau llwyddiannus eisoes o ganlyniad i waith Llwyddo’n Lleol ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy yn hyn o beth yn y dyfodol.

"Mae’n bleser gen i heddiw allu cyhoeddi cyllid gan Raglen Môn a Menai i gefnogi’n ymhellach y cynllun hwn."

Dywedodd Arweinydd Portffolio Economi Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd John Wynn Jones:

"Ers i Gyngor Gwynedd sefydlu’r fenter arloesol Llwyddo’n Lleol yn 2004 mae wedi cefnogi dros 1,000 o bobl ifanc y sir. Rydym yn falch bod syniad Gwynedd nawr yn cael ei weithredu ledled ardal y gogledd orllewin er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc lwyddo yn eu cymunedau eu hunain. Mae dros 2,500 o bobl ifanc wedi elwa o’r prosiect ar draws y gogledd orllewin."

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2008 mai Môn a Menai oedd ail ardal Ardal Adfywio Strategol Cymru. 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 07 Mehefin 2012 Yr economi Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Programme for Government - Growth Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i