Bu farw cyfanswm o 440 o ddynion a bechgyn ym 1913 ar ôl ffrwydrad enfawr ar safle Pwll Glo Universal yn Senghennydd. Effeithiwyd ar fywydau bron bob teulu yng Nghwm Aber ac aeth y newyddion ofnadwy o amgylch y byd.
Gwahoddwyd y Prif Weinidog i’r pentref gan Grŵp Treftadaeth Cwm Aber er mwyn lansio’r apêl am gofeb briodol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae glowyr yn ganolog i hanes Cymru. Mae dylanwad y pyllau glo yn amlwg yn ein cymunedau, ein cymdeithas ac yn nhirwedd ein gwlad.
"Roedd yna gyfnod, gwaetha’r modd, pan roedd trychinebau mewn pyllau glo yn beth rhy gyffredin o lawer. Yn wir, yn ddiweddar iawn bu farw pedwar o lowyr ym Mhwll Glo Gleision. Roedd hynny’n sioc ac yn atgof o beryglon y diwydiant.
"Mae’n naturiol, felly, i ni gael cofeb barhaol yng Nghymru – cofeb i lowyr y gorffennol a glowyr y presennol."
Mae’r Grŵp Treftadaeth yn datblygu cynlluniau i godi cofeb ger safle hen Bwll Glo Universal. Caiff y gofeb ei chyflwyno i holl gymunedau glofaol Cymru a’r bobl fu farw yn y drychineb lofaol waethaf yn hanes Prydain.
Dywedodd y Cynghorydd Harry Andrews, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
"Rydyn ni’n cefnogi’r cynllun cyffrous hwn i gydnabod cenedlaethau o ddynion a bechgyn o bob cwr o Gymru a weithiodd fel glowyr – bu farw llawer ohonynt wrth wneud eu gwaith peryglus.
"Mae hanes trasig Cwm Aber, ynghyd â chyfraniad sylweddol yr ardal at y diwydiant glo yng Nghymru, yn ei wneud yn safle perffaith ar gyfer Cofeb Genedlaethol i Lowyr – y cyntaf o’i math yng Nghymru."
Mae’r prosiect yn symud yn ei flaen diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cronfa Dreftadaeth y Loteri (£48,800) ac amrywiol gyfraniadau cymunedol.











