Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn lansio cynlluniau ar gyfer Cofeb Genedlaethol i Lowyr

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymweld â safle’r drychineb lofaol waethaf yn hanes Prydain i lansio apêl fawr am Gofeb Genedlaethol i Lowyr, y gofeb gyntaf o’i math.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Bu farw cyfanswm o 440 o ddynion a bechgyn ym 1913 ar ôl ffrwydrad enfawr ar safle Pwll Glo Universal yn Senghennydd. Effeithiwyd ar fywydau bron bob teulu yng Nghwm Aber ac aeth y newyddion ofnadwy o amgylch y byd.

Gwahoddwyd y Prif Weinidog i’r pentref gan Grŵp Treftadaeth Cwm Aber er mwyn lansio’r apêl am gofeb briodol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae glowyr yn ganolog i hanes Cymru. Mae dylanwad y pyllau glo yn amlwg yn ein cymunedau, ein cymdeithas ac yn nhirwedd ein gwlad.

"Roedd yna gyfnod, gwaetha’r modd, pan roedd trychinebau mewn pyllau glo yn beth rhy gyffredin o lawer. Yn wir, yn ddiweddar iawn bu farw pedwar o lowyr ym Mhwll Glo Gleision. Roedd hynny’n sioc ac yn atgof o beryglon y diwydiant.

"Mae’n naturiol, felly, i ni gael cofeb barhaol yng Nghymru – cofeb i lowyr y gorffennol a glowyr y presennol."

Mae’r Grŵp Treftadaeth yn datblygu cynlluniau i godi cofeb ger safle hen Bwll Glo Universal. Caiff y gofeb ei chyflwyno i holl gymunedau glofaol Cymru a’r bobl fu farw yn y drychineb lofaol waethaf yn hanes Prydain.

Dywedodd y Cynghorydd Harry Andrews, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

"Rydyn ni’n cefnogi’r cynllun cyffrous hwn i gydnabod cenedlaethau o ddynion a bechgyn o bob cwr o Gymru a weithiodd fel glowyr – bu farw llawer ohonynt wrth wneud eu gwaith peryglus.

"Mae hanes trasig Cwm Aber, ynghyd â chyfraniad sylweddol yr ardal at y diwydiant glo yng Nghymru, yn ei wneud yn safle perffaith ar gyfer Cofeb Genedlaethol i Lowyr – y cyntaf o’i math yng Nghymru."

Mae’r prosiect yn symud yn ei flaen diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cronfa Dreftadaeth y Loteri (£48,800) ac amrywiol gyfraniadau cymunedol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 28 Mehefin 2012 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i