Ar hyn o bryd, mae’r lein yn mynd ar yr hyd yr 8 milltir i Garrog, ond y nod yn y tymor hir yw ymestyn y lein ymhellach ar hyd y 2.5 milltir i Gorwen, gan ddod â manteision i’r dref honno oherwydd yr ymwelwyr. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £500,000 o arian i’r cynllun, ac mae’r gwaith wedi cychwyn.
Yn ystod ymweliad â gorsaf Llangollen, gwelodd y Prif Weinidog y cynlluniau, a chael gwybod y diweddaraf am hynt y gwaith.
Meddai’r Prif Weinidog:
"Mae’r cynllun i ymestyn y rheilffordd i Gorwen wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru erioed. Mae Rheilffordd Llangollen yn atyniad trawiadol i ymwelwyr, a byddai ymestyn y manteision i Gorwen yn bendant yn beth da.
"Dyma hwb go iawn i’r diwydiant ymwelwyr, a bydd yn rhoi cyfle i fusnesau yng Nghorwen, ynghyd ag ymwelwyr oherwydd byddant yn gallu gweld mwy o’r ardal hardd yma trwy ddefnyddio pŵer y stêm."











