Bydd y swyddfa newydd ar Victoria Street yn gartref parhaol â ffocws cryfach i Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Gweinidogion i barhau i feithrin cysylltiadau gyda busnesau, llysgenadaethau ac adrannau Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mewn ychydig wythnosau, bydd llygaid y byd ar Lundain ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, felly mae hwn yn gyfle delfrydol i ni agor ein swyddfa newydd yn Llundain.
"Bydd y swyddfa yn ganolfan bwysig i Lywodraeth Cymru a busnesau Cymru er mwyn dylanwadu ar benderfynwyr yn y ganolfan ariannol a masnachol fwyaf blaenllaw yn y byd. Rydyn ni’n wynebu marchnad anodd a chystadleuol, ond rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i gyfleu’r neges mai Cymru yw’r lle i fuddsoddi.
"Mae’n hanfodol o ystyried cythrwfl yr economi fyd-eang. Mae mwy na 1,000 o gwmnïau tramor yn gweithio yng Nghymru, gan gyflogi tua 140,000 o bobl. Rydyn ni am adeiladu ar hyn a pharhau i ddenu cwmnïau tramor i Gymru.
"Bydd swyddfa yng nghanol Llundain yn ein helpu i hyrwyddo Cymru i’r byd er mwyn hybu economi Cymru."
Mae agoriad Swyddfa Llundain yn dilyn cyfres o ymweliadau tramor a theithiau masnach dan arweiniad y Prif Weinidog i India, Tsieina a’r Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi trefnu rhaglen helaeth o deithiau masnach tramor – gan gynnwys y Dwyrain Canol, Gogledd America a Gwladwriaethau’r Gwlff – i annog cwmnïau o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd tramor.











