Bydd baner Cymru yn cyhwfan yn falch uwchben y stadiwm wrth i Dîm pêl-droed merched GB chwarae yn erbyn Seland Newydd yng ngêm gyntaf y Gemau Olympaidd, a gêm rhwng Brasil a Chameroon i ddilyn.
Bydd 11 o gemau’n cael eu chwarae dros 16 diwrnod yn Stadiwm y Mileniwm, a bydd hyn yn golygu hwb i dwristiaeth a busnesau. Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis yn bresennol yn y gemau agoriadol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Y Gemau Olympaidd yw’r sioe fwyaf gwych ar y ddaear. Heddiw, yma yng Nghymru, y byddwn yn gweld y chwaraeon cyntaf, ac mae’n wych o beth ein bod ni’n rhan o’r digwyddiad byd-eang hwn. Ymhen deuddydd bydd llygaid y byd ar y seremoni agoriadol yn Llundain. Ond heddiw Cymru sy’n cael y sylw ac unwaith eto mae cyfle inni ddangos i bobl ar draws y byd pa mor arbennig yw’r croeso yma i ddigwyddiadau chwaraeon."
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis:
"Anrhydedd o’r mwyaf yw cael cynnal y digwyddiad chwaraeon cyntaf yng Ngemau 2012. Mae’r gemau pêl-droed hyn yn gyfle rhagorol i bobl Cymru gael profiad o gystadleuaeth Olympaidd yn ein prifddinas. Bydd Cymru hefyd yn elwa’n fyd-eang wrth i ddarllediadau teledu o’r gemau hyn yn Stadiwm y Mileniwm gael eu gweld mewn cartrefi ledled y byd."











