Mae 30 o athletwyr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer Tîm GB, gan gynnwys Dai Greene, Helen Jenkins, Hannah Mills a Tom James.
Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y seremoni. Dywedodd:
"Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o athletwyr Cymru sydd wedi ennill lle yn Nhîm GB. Yn sicr bydd pawb yn falch ohonyn nhw wrth iddynt gynrychioli Cymru a’r DU yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf gwych yn y byd.
"Bydd y cystadlu’n ben llanw ar flynyddoedd o waed, chwys a dagrau – a gobeithio’n fawr y byddant yn dod â medalau i Gymru. Roedd nifer y medalau a enillwyd yn Beijing yn eithriadol - byddai llwyddo i wneud cystal â hynny yn anhygoel – a byddai gwneud hyd yn oed yn well na hynny fel breuddwyd."
Ychwanegodd y Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis, sydd wedi recordio neges fideo yn dymuno lwc i'r tim:
"Mae'r 30 o gystadleuwyr Cymraeg eisoes wedi gwneud Cymru yn hynod o falch. Rwy'n dymuno pob lwc i bob un ohnony nhw wrth iddynt geisio creu hanes ac rwy'n gobeithio bydd eu campau yn ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o bobl i roi cynnig ar chwaraeon eu hunain."











