Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Yr Orsedd yn anrhydeddu’r Prif Weinidog

Mae Gorsedd y Beirdd wedi anrhydeddu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dydd Gwener 10 Awst 2012

Mewn seremoni yn y brifwyl, cafodd ei anrhydeddu ochr yn ochr â Wynne Evans a John Hartson. Cafodd y rheini a dderbyniwyd i’r Orsedd fel derwyddon drwy anrhydedd eu hurddo i’r wisg las am ragori ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau a gweithgarwch lleol neu genedlaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod gwirioneddol arbennig i mi a fy nheulu. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy urddo i’r Orsedd a chael fy nghydnabod ar y cyd ag unigolion sydd wedi cyflawni cymaint yn eu gwahanol feysydd."

Canmolodd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleni hefyd:

"Mae Bro Morgannwg wedi croesawu’r Eisteddfod gyda breichiau agored ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu’r ŵyl. Mae’n ddigwyddiad o bwys i Gymru ac yn ddathliad nodedig o’n hiaith a’n diwylliant."

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol gwerth £506,400 ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 10 Awst 2012 Yr Iaith Gymraeg Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i