Bydd athletwyr a staff cymorth y timau yn bresennol mewn digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Bydd Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn dechrau’n swyddogol ar 29 Awst ac mae llawer o’r timau cenedlaethol wedi dewis lleoliadau yng Nghymru fel eu canolfannau hyfforddi cyn i gyffro’r gemau ddechrau.
Ymhlith y timau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru mae Seland Newydd, Awstralia, Mecsico, Tsieina, Tîm Seiclo Prydain, Tîm Seiclo’r Unol Daleithiau, Liberia, India a Phwyllgor Paralympaidd Ynysoedd y De (Oceania).
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’r Gemau Paralympaidd yn ddigwyddiad hollol ysbrydoledig. Mae’r cystadleuwyr wedi goresgyn gofidiau mawr i gyrraedd safon uchaf eu campau a chynrychioli eu gwledydd gerbron y byd.
“Mae’n wych o beth ein bod yn gallu croesawu timau cenedlaethol o bob cwr o’r byd yma i Gymru iddyn nhw gael paratoi ar gyfer y gemau. Mae’r timau wedi dewis dod i Gymru gan y gallwn gynnig cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf a’r wybodaeth a’r arbenigedd sy’n briodol i athletwyr Paralympaidd o’r safon uchaf.
“Mae presenoldeb y timau hyn hefyd yn gyfle i ni ddatblygu cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol rhwng ein gwledydd. Pob lwc iddyn nhw i gyd!”
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru ar 029 2082 1823











