Mae’r seremoni agoriadol yn nodi dechrau swyddogol yr 14eg Gemau Paralympaidd .
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Gall Cymru fod yn falch iawn o’r ffaith fod 38 o athletwyr o Gymru, sef y nifer fwyaf erioed, yn rhan o sgwad Paralympaidd GB, ac rwy’n siŵr y bydd y wlad gyfan yn uno mewn cefnogaeth iddynt wrth fynd am yr aur.
"Mae potensial enfawr gan y genhedlaeth bresennol o Baralympiaid. Maent eisoes wedi profi fod ganddynt bopeth sydd ei angen i fod ar frig eu camp a byddant nawr yn cystadlu gyda llygaid y byd arnynt. Rwy’n siŵr y byddant yn llwyddo i wneud Cymru yn falch a dymunaf bob lwc iddyn nhw."
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis:
"Mae Paralympiaid Cymru wedi rhoi blynyddoedd o waith caled i gyrraedd y safon ar gyfer y Gemau hyn a ‘does dim amheuaeth y byddant yn dod adref â medalau.
"Mae’r ffaith fod gennym 38 o athletwyr yn y sgwad, hanner ohonynt yn Baralympiaid am y tro cyntaf, yn dangos pa mor gryf yw chwaraeon anabledd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n glod i’r clybiau, yr hyfforddwyr a’r staff cymorth ar draws y wlad sy’n parhau i hyrwyddo a thyfu chwaraeon anabledd ein bod yn adeiladu ar ein hanes anhygoel o lwyddiannus o gynhyrchu Paralympiaid o’r safon gorau yn y byd.
"Rwy’n siŵr fod pawb yng Nghymru am ddymuno pob llwyddiant i’n hathletwyr yn Llundain."











