Roedd y Llysgennad Bobby McDonagh yn ymweld â Chymru am y trydydd tro pan dynnodd sylw at y cysylltiadau ardderchog rhwng Cymru ac Iwerddon a sut mae’r ddwy lywodraeth am eu datblygu ymhellach.
Iwerddon yw ail farchnad allforion mwyaf Cymru gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwerth £1,475 miliwn o nwyddau wedi mynd i Iwerddon o Gymru dros y flwyddyn.
Mae tua 50 o fentrau sy’n eiddo i Wyddelod yn gweithredu yng Nghymru ac yn cyflogi 2,600 o bobl. Mae twristiaeth hefyd yn gyswllt mawr, gydag ymwelwyr o Iwerddon yn cyfrif am fwy nag 20 y cant o holl ymwelwyr rhyngwladol Cymru, gyda 200,000 o ymwelwyr yn gwario £50 miliwn y flwyddyn.
Cyfarfu’r Llysgennad hefyd ag Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, i drafod Rhaglen Drawsffiniol Iwerddon-Cymru a’r Cronfeydd Strwythurol a'r Ysgrifennydd Parhaol, Derek Jones. Fe wnaeth staff yr Ysgrifennydd Parhaol briffio'r Llysgennad a'i cydweithwyr ar y cysylltiadau rhwng Cymru a Iwerddon yn ystod y diwrnod.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’n wych cael croesawu’r Llysgennad i Gymru unwaith eto. I ni, mae Iwerddon yn parhau i fod yn bartner economaidd hanfodol ac yn gyfaill agos. Mae gwerth y nwyddau o Gymru sy’n cael eu gwerthu i Iwerddon yn agos at £1.5 biliwn y flwyddyn ac mae cannoedd ar filoedd o dwristiaid o Iwerddon yn dod i fwynhau ein gwlad, ac yn gwario arian mewn cymunedau ledled Cymru.
"Mae fy llywodraeth wedi ymrwymo’n fawr i sicrhau bod y berthynas hon yn parhau i ffynnu a thyfu. Mae’r UE yn bwysig iawn i’n dwy wlad ac mae llawer o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i ni, o raglenni cyllido’r UE sy’n cefnogi swyddi, at bolisïau gwledig a pholisïau pysgodfeydd. Mae’r Farchnad Gyffredin yn ein galluogi ni i deithio a masnachu yn rhydd rhwng yr holl aelod-wladwriaethau ac mae’n hanfodol i lwyddiant economi Cymru ac economi Iwerddon yn y dyfodol."











