Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mynnwch fod yn ffit a gweithgar yn 2008

Yn sgil gormodedd dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae oerfel mis Ionawr yn gwneud i lawer o bobl deimlo’n llai na phositif am gyflwr eu hiechyd a’u ffitrwydd.
Dydd Llun 31 Rhagfyr 2007
Er mai ystrydeb ydyw, mae’r Flwyddyn Newydd yn amser gwych i fynd ati o’r newydd i geisio gwella’ch ffitrwydd a’ch iechyd. Nid yw hynny’n golygu mynd i gampfa na fyddwch o bosibl yn mynd iddi ond unwaith neu ddwywaith. Mae mynd allan am dro am hanner awr, mynd am dro ar y beic am 30 munud neu hyd yn oed gwneud gwaith tŷ yn gallu’ch helpu i deimlo’n well amdanoch chi’ch hun a chyfrannu at y 30 munud o ymarfer dwysedd cymedrol bum gwaith yr wythnos a argymhellir i sicrhau ffordd iach o fyw.

Mae Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n caniatáu i bobl ifanc 16 oed ac yn iau nofio am ddim yn ystod gwyliau ysgol ac i bobl dros  60 oed nofio am ddim ar hyd y flwyddyn, yn un ffordd yn unig o ailddechrau ymarfer, felly beth am fynd â’r plant i lawr i’r pwll nofio lleol?

31 Rhagfyr 2007
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon Chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 31 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i