Bydd gofyniad newydd yn golygu y bydd pob person sydd wedi cael strôc yn cael ei dderbyn i’r ysbyty i welyau penodedig dan ofal tîm arbenigol, erbyn mis Mawrth 2009.
Daw'r cyhoeddiad yn sgil argymhelliad gan bartneriaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynghori ar wella gofal.
Gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad am eu sylwadau ar ôl i archwiliad gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr, a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd, ddod i'r casgliad nad oedd digon o welyau a chymorth arbenigol ar gyfer cleifion sydd wedi cael strôc.
Er bod nifer y bobl yng Nghymru sy'n marw ar ôl cael strôc wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, bu farw 2,380 o bobl yn 2005.
Dywedodd Gwenda Thomas:
"Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella gwasanaethau strôc yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd, mae'r bobl hynny sy'n goroesi ar ôl cael strôc yn gorfod ymdopi â gwahanol fathau o anabledd ac anghenion adsefydlu.
"Roedd adroddiad Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn feirniadol iawn am ein gwasanaethau strôc. Pan gyfarfu'r Gweinidog Iechyd â'r Gymdeithas Strôc ym mis Mehefin, fe’u sicrhaodd fod hyn yn un o'i blaenoriaethau.
“Mae bellach yn ofynnol i’r GIG ar draws Cymru gydweithio ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol i fapio'r gwasanaethau cyfredol yn erbyn y safonau a bennwyd ar gyfer gwasanaethau strôc yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.
"I sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn brydlon - ac fel rhan o ymrwymiad Cymru'n Un i wella gwasanaethau ar gyfer cyflyrau hirdymor fel strôc - bydd £2.5 miliwn ar gael o 2008-09 ymlaen. Bydd y penderfyniadau ar sut i ddefnyddio'r cyllid hwn yn cael eu gwneud yn dilyn y gwaith mapio a wneir gan y GIG lleol.
"Rydym hefyd wedi sefydlu panel annibynnol, sef y Partneriaeth Strôc, i oruchwylio a chydgysylltu'r gwelliannau i wasanaethau strôc ar lefel genedlaethol. Bydd y bartneriaeth hon yn annog, yn cynghori ac yn cynorthwyo'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol wrth iddynt fynd ati i geisio darparu gofal i'r safon y mae cleifion sydd wedi cael strôc ei hangen.
"Rydym angen i feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill hyrwyddo ac arwain y rhaglen newid. Dyma pam rydym wedi sefydlu Cynghrair Strôc Cymru i helpu’r Bartneriaeth Strôc a chyfrannu a chefnogi ei gwaith. Arweinydd y Gynghrair hon yw Dr Anne Freeman, sy'n feddyg ac yn un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas Strôc.
"Nod y rhaglen waith hon yw hybu’r gwaith dan sylw mewn ffordd gadarn a phositif a bod yn ganolbwynt ar gyfer y newidiadau y mae angen i ni eu cyflawni. Bydd y rhaglen hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd, gan ddibynnu ar ei hynt."
Dywedodd Trish Hughes, Rheolwr Gyffredinol y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad i wella gwasanaethau strôc yng Nghymru.
"Fel y mae'r Gweinidog yn ei gydnabod, mae'r gofal a ddarperir yng Nghymru ar gyfer cleifion sydd wedi cael strôc ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mae strôc yn gyflwr hirdymor ac felly bydd angen cyllid hirdymor. Mae ffordd bell i fynd eto, ond mae’n galonogol iawn fod Llywodraeth y Cynulliad bellach wrthi'n mynd i'r afael â'r salwch mwyaf ond dau sy'n lladd pobl yn y DU.”
11 Rhagfyr 2007











