Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pobl bro Ysbyty Llwynhelyg yn aros llai am sgan MRI

Bydd pobl Sir Benfro yn gallu cael sgan MRI yn Ysbyty Llwynhelyg heb orfod gadael eu bro diolch i fuddsoddiad o £1.5 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad.
Dydd Llun 19 Tachwedd 2007

Bydd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart yn agor yn swyddogol heddiw (Llun, 19 Tachwedd) uned y sganiwr MRI newydd.  Mae hynny’n golygu na fydd yn rhaid i gleifion deithio’r 46 milltir yn ôl a blaen i Gaerfyrddin am brofion diagnostig.

Mae’r buddsoddiad hwn yn goron ar ben yr £8 miliwn o fuddsoddiad sydd wedi’i gyhoeddi eisoes i wella’r ganolfan Damweiniau ac Achosion Brys.

Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu amcanion Cynllun Oes, strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth y Cynulliad i wella’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Bydd yr uned MRI yn golygu y bydd 2,000 yn fwy o bobl leol yn cael eu sganio bob blwyddyn.

Meddai Edwina Hart:

Ein nod yw cynnig cymaint o wasanaethau â phosibl mor agos â phosibl at y claf.  Mae’r gwariant ychwanegol hwn i wella gwasanaethau ymhellach yn dangos yn glir ein hymrwymiad i atgyfnerthu dyfodol Ysbyty Llwynhelyg.  

Tan yn awr, mae cleifion wedi gorfod teithio i Ysbyty Werndale ger Caerfyrddin i gael MRI.  Bydd yr uned MRI newydd yn Sir Benfro yn lleihau amserau aros ar gyfer cael sgan, gyda chleifion yn cael triniaeth yn gynt a bydd yn arwain yn y pen draw at wella eu hiechyd ac ansawdd eu bywydau.

Gyda’r buddsoddiad hwn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn gallu rhoi triniaeth yn gynt, lleihau’r cynffon o bobl sy’n aros am sgan a chynyddu’r nifer sy’n cael sgan bob blwyddyn.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo hefyd i wella’r ganolfan Damweiniau ac Achosion Brys a gwella’r gofal sy’n cael ei gynnig i bobl leol yn eu bro.  

Mae mwy nag £8 miliwn o arian Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei fuddsoddi yn y datblygiad hwn.

Mae hyn ar ben y buddsoddiad yn Ysbytai Cymunedol newydd Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro a fydd yn ysgafnhau baich Ysbyty Llwynhelyg ac yn cynnig gwasanaethau i gleifion allanol, gwasanaethau gofal dydd a chymuned a thriniaeth ar gyfer mân-anafiadau.

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen:

Mae agor yr uned MRI newydd yn ddiwrnod pwysig yn hanes iechyd yn Sir Benfro ac mae cleifion eisoes yn gweld manteision cael gwasanaeth o’r fath wrth garreg drws.

Gyda’r gwelliannau i’r ganolfan Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg, ynghyd â’r cynllun gwerth miliynau o bunnau i wella gwasanaethau lleol a chreu mwy o ystafelloedd sengl en-suite, mae hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol y gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro.

19 Tachwedd 2007 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

GIG Cymru

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 19 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mawrth 2012
Ll M M I G S S
<< Chw   Ebr >>
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31  
I'n dilyn ni trowch i