Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y Grŵp Gofal Llosgiadau Cenedlaethol mewn cyfarfod yn Llundain ddydd Mawrth. Mae'r Grŵp hwn yn dwyn ynghyd staff arbenigol yn ogystal â rheolwyr a chomisiynwyr gwasanaethau iechyd i gynllunio'r gwasanaethau gofal llosgiadau a ddarperir ar draws y Deyrnas Unedig (DU).
Comisiwn Iechyd Cymru sy’n cynrychioli Cymru ar y Grŵp Gofal Llosgiadau Cenedlaethol, ac mae'r ganolfan llosgiadau yn Abertawe wedi cymryd rhan lawn yn y broses o gynllunio'r rhwydwaith gwasanaethau llosgiadau.
Ym mis Chwefror eleni, dechreuodd gwaith ar brosiect gwerth £10 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymestyn ac ailwampio'r cyfleusterau presennol, er mwyn paratoi’r ganolfan ar gyfer ei rôl estynedig. Disgwylir i'r gwaith ar yr estyniad 1,600 troedfedd sgwâr gael ei gwblhau erbyn mis Awst 2008.
Dywedodd Edwina Hart:
Rwy'n hynod falch fod y Grŵp Gofal Llosgiadau Cenedlaethol wedi argymell gwasanaeth Ysbyty Treforys i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal llosgiadau yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Mae hyn yn brawf o enw da'r holl bobl sy'n gweithio yn y Ganolfan, ac yn deillio o’r gwaith caled a wnaed gan glinigwyr a Chomisiynwyr Iechyd Cymru i sicrhau'r penderfyniad.
Yr wythnos hon, cafodd sgiliau a phroffesiynoldeb y tîm llosgiadau eu profi'n llawn ar ôl y tân mewn cartref yn Llanelli a achosodd anafiadau difrifol i bedair o ferched ifanc. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r tîm a'r gwasanaethau brys eraill a fu'n cydweithio i ofalu amdanynt. Mae teuluoedd a ffrindiau'r pedair yn ein meddyliau.
Gwnaeth y ganolfan hefyd ddarparu triniaeth i’r bobl hynny a anafwyd yn ddifrifol yn y ffrwydrad yng ngwaith dur Corus yn 2001. Yn dilyn y ffrwydrad, aeth Corus a'r gymuned ati i godi arian i agor canolfan ymwelwyr newydd yn y Ganolfan Llosgiadau yn Ysbyty Treforys.
Mae gan y Ganolfan Llosgiadau, yn haeddiannol, enw da fel un o'r gwasanaethau llosgiadau mwyaf a gorau yn Ewrop. Ar hyn o bryd, dyma'r gwasanaeth llosgiadau arbenigol prysuraf yn y DU sy'n trin oddeutu 750 o gleifion bob blwyddyn. Mae'r Llawdriniaeth Blastig a wneir yn Ysbyty Treforys yn cynnwys triniaeth ailadeiladol flaengar ar ôl damweiniau a salwch.
Mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn penderfynu pa gleifion fydd yn cael eu hanfon i Dreforys i gael triniaeth o ysbytai eraill yn yr ardal, a dylai'r wybodaeth hon fod ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Hoffwn longyfarch pawb sy'n helpu i wireddu'r cynllun hwn i wella gofal llosgiadau.
Dywedodd Mr Williams Dickson, Ymgynghorydd Llosgiadau a Chyfarwyddwr Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru:
Rydym yn hapus iawn â'r penderfyniad. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag ysbytai yn Lloegr ers blynyddoedd ac wedi derbyn cleifion o Loegr yn ogystal â Chymru. Mae'n newyddion da iawn fod hyn yn cael eu ffurfioli er mwyn datblygu'r gwasanaeth ymhellach.
Ychwanegodd Calum Campbell, Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Abertawe:
Mae'r hyn a ddigwyddodd yr wythnos hon wedi dangos y gofal o safon uchel iawn y mae staff yn gallu ei ddarparu pan fo achosion o losgiadau difrifol yn digwydd. Rydym yn falch iawn fod y rhagoriaeth hon ynghyd â gwaith caled ac ymroddiad staff y Ganolfan wedi'u cydnabod.
Mae gan y Ganolfan gefndir rhagorol o ran gofalu am gleifion a hefyd o ran hyrwyddo gofal llosgiadau dramor, mewn gwledydd datblygol, drwy raglenni hyfforddiant Interburns y mae ein llawfeddygon wedi helpu i'w datblygu.
20 Rhagfyr 2007











