Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwerth £1.2 miliwn o arian newydd ar gyfer ymchwil iechyd

Heddiw, cyhoeddodd Edwina Hart fod grant sy’n werth £1.2 miliwn wedi’i roi ar gyfer ymchwil i afiechydon ac i ofal i gleifion.
Dydd Gwener 21 Rhagfyr 2007

Mae’r grant - sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) - yn cael ei roi i Gynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (rcbcwales) sy’n cydgysylltu rhaglen o brosiectau ymchwil ym maes iechyd.
Bydd Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru yn dyrannu’r arian i ymchwilwyr ym maes nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.  

Dyma’r ail waith i arian gael ei roi i Gynyddu Gwaith Ymchwil Cymru. Rhwng 2005 a 2008, rhoddodd y corff hwn un ar ddeg o gymrodoriaethau ar gyfer prosiectau ymchwil, gan gynnwys ymchwil i Glefyd Parkinson;  i Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint; i achosion lle mae arennau a drawsblannwyd yn cael eu gwrthod gan y corff; ac i sut y mae nyrsys yn mynd ati i baratoi pobl ar gyfer gadael yr ysbyty.

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd:

Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyhoeddi’r arian newydd hwn.

Bydd galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud gwaith ymchwil i afiechydon yn fodd i wella’n dealltwriaeth o’r afiechydon hynny ac i wella’r gofal a roddir i gleifion.

Dywedodd yr Athro Donna Mead, Deon y Gyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Morgannwg, sy’n bennaeth ar y ganolfan gydgysylltu sydd gan Gynyddu Gwaith Ymchwil Cymru:

Mae’r cyhoeddiad am yr arian ychwanegol hwn yn dangos faint o bwys y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CCAUC yn ei roi ar sicrhau bod digon o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr yn y proffesiynau perthynol i iechyd yn cael eu hyfforddi ym maes ymchwil.  

Unigolion yn y proffesiynau hyn sy’n rhoi’r rhan fwyaf o ofal iechyd, ac mae’n gwbl hanfodol bod sylfaen dystiolaeth ar gael a fydd yn sail i’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.  

21 Rhagfyr 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol Grantiau

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 21 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i