Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mesurau newydd i ddefnyddio gwrthfiotigau yn gyfrifol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi taflen newydd i gleifion er mwyn lleihau’r defnydd amhriodol o wrthfiotigau yng Nghymru.
Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2008

Cyhoeddir y daflen wrth i adroddiad newydd gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ddatgelu bod rhai heintiau yn datblygu mwy o ymwrthedd i driniaeth – problem a wynebir gan systemau gofal iechyd ar draws y byd.

Mae ail adroddiad blynyddol Rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus, sy’n ymdrin â’r cyfnod 2006-7, yn dangos nifer yr heintiau difrifol a chyffredin a oedd yn ymwrthol i gyffuriau gwrthficrobaidd a gwrthfiotigau a bresgripsiynwyd i gleifion yng Nghymru.

Y canfyddiad allweddol yw bod rhai o’r heintiau mwyaf cyffredin yn mynd yn fwy ymwrthol i gyffuriau gwrthfiotig.

Bydd y daflen newydd yn pwysleisio i’r cyhoedd bod gwrthfiotigau yn ddiangen neu’n aneffeithiol ar gyfer llawer o glefydau, ac y gallent, o’u cymryd pan nad oes eu hangen, fod yn llai effeithiol pan fydd ar y claf eu hangen fwyaf.

Mae’r adroddiad a lansiad y daflen yn cyd-fynd â’r Diwrnod Ewropeaidd Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau, a fydd yn cael ei nodi yn 27 Aelod-wladwriaeth yr UE eleni a phob blwyddyn o hyn ymlaen, i godi ymwybyddiaeth ynghylch sut i ddefnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol er mwyn cynnal eu heffeithiolrwydd yn y dyfodol.

Cynhelir digwyddiadau mewn mannau eraill yn y DU i nodi’r diwrnod, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol a drefnir gan Bwyllgor Ymgynghorol yr Adran Iechyd ar Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, De Kensington, Llundain.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell:

Mae gwrthfiotigau yn feddyginiaethau pwysig a ddefnyddir i drin heintiau a achosir gan facteria, ac maent wedi achub bywydau di-rif ers iddynt gael eu datblygu. Er hynny, os cymerir gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen, neu os na chymerir hwy yn gywir, bydd mwy o facteria yn datblygu ymwrthedd iddynt.

Mae angen felly i ni leihau ein dibyniaeth ar bresgripsiynu gwrthfiotigau ar gyfer clefydau cyffredin y gellid eu trin trwy ddulliau eraill.  

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ar feddyginiaethau, a gallant hwy gynghori cleifion ynghylch y moddion gorau i drin eu symptomau a’u helpu i benderfynu a oes angen presgripsiwn neu ymweliad â’r Meddyg Teulu.

Mae NICE eisoes wedi cyhoeddi canllawiau clir yn ddiweddar i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynghylch presgripsiynu gwrthfiotigau, yn enwedig ar gyfer heintiau anadlol. Mae cyfrifoldeb arnynt hwy i arfer eu barn glinigol wrth benderfynu a yw’n briodol rhoi gwrthfiotigau i glaf, ond roedd grŵp a sefydlwyd i edrych ar y broblem o ymwrthedd i wrthfiotigau yn tybio bod angen rhagor o wybodaeth i gleifion hefyd, er mwyn iddynt ddeall pryd y bydd gwrthfiotigau’n effeithiol neu beidio.

Mae camdybiaeth, er enghraifft, bod gwrthfiotigau yn lleddfu symptomau annwyd cyffredin. Mewn gwirionedd, gan mai firws sy’n achosi pob annwyd a pheswch a dolur gwddw hefyd gan amlaf, nid yw gwrthfiotigau yn effeithiol. Byddai’n well i’r claf gadw’i hun yn gynnes ac yfed diodydd poeth, gan reoli’r effeithiau gyda moddion annwyd a brynir dros y cownter.

Mae adroddiad y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yn ategu’r dystiolaeth o bob rhan o’r byd bod y defnydd o wrthfiotigau wedi cynyddu nifer y bacteria sy’n ymwrthol i wrthfiotigau.

Dywedodd Dr Robin Howe, Pennaeth Rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol:

Mae monitro ymwrthedd gwrthficrobaidd a’r defnydd o gyffuriau yn allweddol ar gyfer rheoli ymwrthedd a chynnal buddioldeb clinigol y moddion gwrthficrobaidd.

Sefydlwyd ein rhaglen gan y Gwasanaeth mewn ymateb i’r problemau cynyddol o ymwrthedd gwrthficrobaidd, gyda’r nod o leihau clefydau a marwolaethau a achosir gan heintiau sy’n ymwrthol i foddion gwrthficrobaidd a chynnal effeithiolrwydd y cyfryngau gwrthficrobaidd yn y driniaeth ac atal heintiau microbaidd ym mhlith pobl ac anifeiliaid. 

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol eraill yn y dyfodol.

18 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 18 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mawrth 2012
Ll M M I G S S
<< Chw   Ebr >>
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31  
I'n dilyn ni trowch i