Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog i ymweld â safle prosiect adfywio Butetown

Bu Edwina Hart y Gweinidog Iechyd ar ymweliad â safle canolfan iechyd newydd yn Butetown, Caerdydd.
Dydd Iau 19 Tachwedd 2009

Mae’r ganolfan amlbwrpas yn Sgwâr Loudoun, sy’n rhan o brosiect adfywio ehangach, yn ddatblygiad ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd, a fydd yn cynnwys canolfan iechyd, fferyllfa gymunedol, gwasanaethau cymdeithasol a chyfleusterau tai gwarchod.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant o £6.16 miliwn tuag at ddatblygu’r ganolfan iechyd.

Bydd cleifion yn elwa o well mynediad ac amryfal wasanaethau o dan un to.  Nod y cyfleuster, sydd wedi’i gynllunio’n bwrpasol, yw bodloni anghenion y boblogaeth leol sy’n tyfu, gyda’r gwasanaethau iechyd yn cydweithio mewn partneriaeth â’r gymuned ehangach a phartneriaid y sector cyhoeddus.

Un o nifer o ddatblygiadau sydd ar y gweill yw hwn fel rhan o’r gwelliannau i gyfleusterau gofal iechyd yng Nghymru.  Roedd yn bosibl i bractisau ledled Cymru wneud cais am grantiau gwelliant yn ddiweddar i dalu am waith trwsio neu ehangu.

Meddai Edwina Hart y Gweinidog Iechyd:

“Bydd y rhaglen adfywio hefyd yn ei gwneud yn bosibl i ailddatblygu safle bresennol Canolfan Iechyd Grangetown, i wella’r mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal.

“Bydd Sgwâr Loudoun yn esiampl o weithio lleol, traws-sector, i ddarparu gofal iechyd  yn y gymuned.”

19 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol Adfywio a datblygu cymunedol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 19 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i