Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arian ar gyfer datblygiadau ym maes gofal sylfaenol

Cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, y bydd canolfan gofal sylfaenol newydd yn cael ei chodi yn yr Wyddgrug. Mae'r ganolfan hon yn un o nifer o ddatblygiadau newydd sydd ar droed fel rhan o welliannau i gyfleusterau gofal iechyd yng Nghymru.
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2009

Bydd y ganolfan yn dwyn ynghyd ddwy feddygfa sef Meddygfa Bradley, sydd â 4,000 o gleifion a Meddygfa Grosvenor Street, sydd â 3,700. Hefyd bydd gan y ganolfan y capasiti i dderbyn 3,500 yn rhagor o gleifion dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd integreiddio'r ddwy feddygfa yn fanteisiol i gleifion, gyda'r ganolfan bwrpasol a hygyrch newydd hon yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau o dan yr un to. Bydd lle i ehangu gwasanaethau yno yn y dyfodol.

Ers i'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ddod i rym ym mis Ebrill 2004, Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y cyllid i feddygfeydd sydd o dan y contract ar gyfer codi cyfleusterau newydd, adnewyddu a gwella cyfleusterau presennol neu osod cyfleusterau newydd yn lle hen rai.

Mae'r Byrddau Iechyd Lleol yn cyflwyno bidiau i Lywodraeth y Cynulliad, sy'n defnyddio ei disgresiwn i benderfynu ar lefel y grant fydd yn cael ei ddarparu i feddygfeydd.

Yn ddiweddar, roedd cyfle i feddygfeydd ledled Cymru wneud cais am grantiau gwella er mwyn talu am waith i drwsio neu ehangu cyfleusterau.  Mae nifer o geisiadau ar gyfer gwaith gwella wedi eu cymeradwyo yn ddiweddar ar gyfer meddygfeydd yn y Gogledd.

Cyfanswm cost y gwaith hwn yw £248,086, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyfrannu £164,217 tuag at hynny. Mae'r gwaith yn amrywio o drosi ystafelloedd er mwyn rhoi mwy o le i feddygon gwrdd â chleifion, i fân welliannau er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Gall gwaith gwella fod o fantais i economi'r ardal hefyd, oherwydd busnesau lleol sy'n debygol o fod yn ymgymryd â'r gwaith.

Meddai'r Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart:

"Rydyn i bob amser yn chwilio am gyfleoedd i foderneiddio gwasanaethau iechyd a lles, ac i ddod â chyfleusterau yn nes at y gymuned leol. Mae datblygu canolfan fel hon yn yr Wyddgrug yn ffactor pwysig wrth sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu'n effeithlon.

"Yn ogystal â chyfleusterau newydd, rhaid cynnal gwaith rheolaidd i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau iechyd presennol yn addas i'r diben, yn fodern, yn hygyrch ac yn lân."

24 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 24 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i