Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Derbyn cyngor arbenigwyr ar wella gofal i fabanod newydd eu geni

Mae'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi derbyn yr argymhellion a wnaed gan grŵp arbenigol ar welliannau i ofal babanod sâl a'r rhai sy'n cael eu geni'n gynnar yng Nghymru.
Dydd Mawrth 08 Rhagfyr 2009
Derbyn cyngor arbenigwyr ar wella gofal i fabanod newydd eu geni

Mae'r grŵp, dan arweiniad Dr Jean Matthes, Ymgynghorydd Neonatoleg ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wedi creu cynllun i wella gwasanaethau i fabanod newydd eu geni.

Ymhlith y blaenoriaethau mae cyflwyno gwasanaethau cludiant newyddanedigol penodol, gwella systemau gwybodaeth a sefydlu Rhwydwaith Clinigol Newyddenedigol wedi'i Reoli i Gymru. Dylai'r rhwydwaith fod ar waith ym mis Chwefror.

Cyhoeddodd y Gweinidog y bydd arian ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad gwerth £2 filiwn y flwyddyn yn cael ei wario i wella gwasanaethau newyddanedigol yn unol ag argymhellion y grŵp.  

Ymhlith y gwelliannau arfaethedig mae:  

  • Dau wasanaeth cludiant newyddanedigol, y naill yn y de
    a'r llall yn y gogledd. Bydd y gwasanaethau cludiant yn sicrhau bod babanod yn cael eu cludo'n gyflym ac yn ddiogel i ganolfannau arbenigol.  Bydd y gwasanaethau'n rhedeg am 12 awr y diwrnod yn y lle cyntaf, gan anelu at ddarparu gwasanaeth 24 awr yn y dyfodol wrth i fwy o adnoddau staff gael eu datblygu. Dylai'r gwasanaeth newydd ddechrau rhedeg yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.
  • Bydd y gwasanaethau arbenigol hyn yn cael eu darparu mewn tair canolfan yn y de, sef Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, ac un yn y gogledd er nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â lleoliad y ganolfan hon.
  • Bydd Ymgynghorwyr a Nyrsys Newyddenedigol ychwanegol yn cael eu recriwtio ar gyfer pob canolfan i ddarparu'r gwasanaeth newydd.
  • Bydd un Cronfa Ddata Newyddenedigol yn cael ei sefydlu i sicrhau bod y data a gesglir yn cael eu safoni ledled Cymru.

Meddai Mrs Hart:  

“Rwy' eisiau diolch i Dr Matthes a'i thîm am yr adroddiad ar sut y gallwn ni wella gofal ar gyfer y babanod mwya’ bregus. Bydd rhoi'r argymhellion hyn ar waith yn gwella diogelwch clinigol, ac yn sicrhau bod gwasanaethau gofal dwys i'r newydd-anedig yn gynaliadwy.  Bydd mwy o fabanod yn cael eu trin yn agosach i'w cartrefi, a bydd modd eu cludo mewn modd priodol a diogel i unedau arbenigol os bydd angen.

"Bydd y cynigion hyn yn hwyluso hynt y gwaith o fodloni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan y gwnes i eu lansio y llynedd.  Fy nod yw darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy er budd babanod sydd ag angen gofal arbenigol a'u teuluoedd.”

Meddai Dr Jean Matthes, Cadeirydd y Grŵp Arbenigol:  

“Rwy wrth fy modd o glywed bod gwasanaethau cludiant, cronfa ddata a rhwydwaith newyddenedigol yn cael eu datblygu. Bydd yn helpu'n fawr i wella'r gwasanaethau i fabanod newydd eu geni a'u teuluoedd ledled  
Cymru.”

Ychwanegodd Dr Huw Jenkins, pediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru:

“Dw i'n croesawu'r cyhoeddiad yma'n fawr ac yn falch fod gwaith caled y clinigwyr a phobl eraill sydd wedi bod wrthi'n datblygu'r safonau a'r modelau gwasanaeth newyddenedigol wedi dwyn ffrwyth.”

8 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 08 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i