Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y gweinidog iechyd yn cyhoeddi cynlluniau newydd i wella gwasanaethau lymffoedema

Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cyhoeddi strategaeth newydd i wella gallu cleifion sydd â lymffoedema i fanteisio ar wasanaethau uchel eu safon.
Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2009

Mae lymffoedema, sef chwyddi cronig yn aelodau’r corff – yn gyflwr gwanychol cronig ac mae’n effeithio ar unigolion yn gorfforol, yn seicolegol ac yn gymdeithasol.

Amcangyfrifir bod tua 6,000 o bobl yn dioddef o lymffoedema yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae amrywiaeth mawr yn y modd y caiff gwasanaethau eu trefnu a’u darparu ledled Cymru gyda nifer o ddioddefwyr yn methu cael diagnosis a thriniaeth sy’n briodol a rhai ond yn llwyddo i gael gwasanaeth am eu bod yn dioddef o ganser. Mae’r strategaeth newydd yn galw am gydweithio, gyda’r saith Bwrdd Iechyd sydd yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gwasanaeth cyson yn cael ei ddarparu i gleifion.

Dyma rai o brif nodau’r Strategaeth Lymffoedema:

  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch lymffoedema a sut y gall strategaethau trin syml wella ansawdd bywyd y claf
  • Ymrymuso cleifion i fyw eu bywyd mor annibynnol ag y bo modd a lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â lymffoedema
  • Gwella gallu cleifion i fanteisio ar wasanaethau lymffoedema
  • Darparu dulliau ataliol cynhwysfawr i gleifion sydd â risg o ddatblygu lymffoedema

Gofynnwyd i’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru ddatblygu cynlluniau erbyn diwedd mis Mawrth 2010 yn nodi sut y byddant yn cyflawni pwyntiau gweithredol allweddol y strategaeth.

Er mwyn helpu i roi’r strategaeth ar waith bydd rheolwr yn cael ei gyflogi ar gyfer y prosiect Cymru gyfan. Bydd ei gyfrifoldebau yn cynnwys datblygu llwybrau gofal o’r camau asesu a gwneud diagnosis drwodd i’r driniaeth.

Dywedodd Edwina Hart:

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl sy’n dioddef o lymffoedema yn cael y driniaeth gywir, gan y gweithwyr proffesiynol cywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu sy’n seiliedig ar dystiolaeth a hefyd ar safonau cenedlaethol a phroffesiynol.

"I’r diben hwn felly mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i Gymdeithas Gwasanaethau Lymffoedema Cymru ddatblygu strategaeth i gyfarwyddo a llywio gwelliannau dros amser.”

16 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Strategaeth ar gyfer Lymffoedema yng Nghymru

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 16 Rhagfyr 2009 Cymru iachach Gwella iechyd Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i